Cofrestru ar gyfer TAW
Trosglwyddo eich cofrestriad
Gallwch drosglwyddo cofrestriad TAW os oes newid mewn perchnogaeth busnes neu statws cyfreithiol.
Er enghraifft:
-
os byddwch yn cymryd busnes drosodd a’ch bod am barhau i ddefnyddio’i rif TAW
-
os bydd eich busnes yn newid o fod yn bartneriaeth i fod yn unig fasnachwr
Mae hyn yn golygu y bydd y busnes yn cadw’r un rhif TAW.
Gwneud cais am drosglwyddiad
Gallwch wneud cais i drosglwyddo cofrestriad TAW:
-
ar-lein
-
drwy’r post
Gwneud cais ar-lein
Os ydych yn berchen ar y cofrestriad TAW, mewngofnodwch i’ch cyfrif TAW ar-lein gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Bydd angen i chi ddewis ‘canslo cofrestriad TAW’. Yna gofynnir i chi a ydych yn trosglwyddo’r busnes neu a yw wedi newid ei statws cyfreithiol.
Os ydych yn prynu’r busnes neu’n newid ei statws cyfreithiol, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Gwneud cais drwy’r post
Os ydych yn newid statws cyfreithiol eich busnes, bydd angen i chi lenwi ffurflen VAT68 a ffurflen VAT1.
Os ydych yn prynu busnes, mae’n rhaid i chi a’ch gwerthwr lenwi ffurflen VAT68. Bydd angen i chi lenwi ffurflen VAT1 hefyd.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, mae’n cymryd 3 wythnos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) gadarnhau’r trosglwyddiad.
Os ydych yn gwerthu’ch busnes:
-
canslwch fynediad eich cyfrifydd at eich cyfrif TAW ar-lein – er enghraifft, os gwnaethoch ei awdurdodi i ddelio â’ch TAW
-
canslwch unrhyw Ddebydau Uniongyrchol ar eich cyfrif TAW ar-lein
Mae’n rhaid i chi hefyd roi’ch cofnodion i’r prynwr os ydych yn pasio’ch rhif TAW ymlaen.
Os ydych yn prynu busnes:
-
cysylltwch â CThEF cyn pen 21 diwrnod ar ôl y cais am drosglwyddiad os ydych am gadw cyfrifydd y gwerthwr
-
newidiwch unrhyw drefniadau hunan-filio (yn agor tudalen Saesneg) am rai newydd
-
trefnwch Ddebydau Uniongyrchol newydd ar eich cyfrif TAW ar-lein
Os yw’n well gennych gael rhif TAW newydd
Os hoffech gael rhif TAW newydd yn hytrach na chadw’r un sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i chi ganslo’r cofrestriad TAW presennol ac ailgofrestru ar gyfer TAW.