Canslo’ch cofrestriad

Mae’n rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad os nad ydych bellach yn gymwys i fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW. Er enghraifft:

  • rydych yn rhoi’r gorau i fasnachu neu’n rhoi’r gorau i wneud cyflenwadau trethadwy TAW
  • rydych yn ymuno â grŵp TAW

Mae’n rhaid i chi ganslo cyn pen 30 diwrnod os nad ydych yn gymwys mwyach, neu gallech wynebu cosb.

Os yw’ch trosiant sy’n agored i TAW yn mynd o dan £88,000, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ganslo’ch cofrestriad, oni bai bod pob un o’r canlynol yn wir:

  • rydych chi a’ch busnes wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU
  • rydych yn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)

Pryd nad oes yn rhaid i chi ganslo

Does dim rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad TAW os yw’r canlynol yn wir:

Canslo ar-lein

Gallwch ganslo’ch cofrestriad TAW ar-lein os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu ac nid ydych yn rhan o grŵp TAW
  • mae’ch trosiant sy’n agored i TAW yn is na £88,000
  • rydych wedi rhoi’r gorau i wneud nwyddau neu wasanaethau sy’n agored i TAW
  • rydych yn gwneud cais am eithriad os yw’r rhan fwyaf o’r hyn rydych yn ei werthu, neu’r cyfan, ar gyfradd sero TAW

I ganslo’ch cofrestriad TAW ar-lein, bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.

Dechrau nawr

Pryd na allwch ganslo ar-lein

Mae’n rhaid i chi ganslo drwy’r post os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch statws cyfreithiol wedi newid a’ch bod am gael rhif cofrestru TAW newydd
  • rydych wedi gwerthu’ch busnes ac nid yw’r perchennog yn cadw’r rhif cofrestru TAW
  • mae’ch grŵp TAW yn cau (‘diddymu’) - bydd hefyd angen i chi lenwi ffurflen VAT50-51 ac anfon y ddwy ffurflen gyda’i gilydd at CThEF

Canslwch eich cofrestriad drwy’r post drwy ddefnyddio ffurflen VAT7.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol.

Argraffwch eich ffurflen VAT7 wedi’i llenwi, a’i hanfon - ynghyd ag unrhyw ffurflenni eraill sydd wedi’u llenwi - at CThEF. Mae’r cyfeiriad y dylid anfon y VAT7 iddo yn y ffurflen.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Fel arfer, mae’n cymryd 3 wythnos i CThEF gadarnhau bod eich cofrestriad wedi’i ganslo ac i gadarnhau’ch dyddiad canslo swyddogol. Dyma naill ai’r dyddiad pan ddaeth y rheswm dros ganslo’ch cofrestriad i rym (er enghraifft, pan wnaethoch roi’r gorau i fasnachu), neu’r dyddiad pan wnaethoch ofyn am gael canslo.

Bydd CThEF yn anfon cadarnhad i’ch cyfrif TAW ar-lein neu drwy’r post os na fyddwch yn gwneud cais ar-lein.

Mae’n rhaid i chi roi’r gorau i godi TAW o’r dyddiad canslo ymlaen. Bydd angen i chi gadw’r holl gofnodion TAW am chwe blynedd.

Bydd CThEF yn eich ailgofrestru’n awtomatig os bydd yn sylweddoli na ddylech fod wedi canslo. Bydd yn rhaid i chi roi cyfrif am unrhyw TAW y dylech fod wedi’i thalu yn y cyfamser.

TAW ar ôl i chi ganslo

Bydd yn rhaid i chi gyflwyno Ffurflen TAW derfynol ar gyfer y cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad canslo.

Mae’n rhaid i chi roi cyfrif am unrhyw stoc ac asedion eraill sydd gennych ar y dyddiad hwn os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • gwnaethoch adhawlio TAW pan brynoch yr asedion, neu gallech fod wedi’i adhawlio
  • mae cyfanswm y TAW sy’n ddyledus ar yr asedion hyn dros £1,000

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW derfynol cyn pen mis i’r dyddiad canslo, oni bai eich bod yn rhan o’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn rhan o’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, cyflwynwch eich Ffurflen TAW derfynol cyn pen 2 fis i’r dyddiad canslo.

Peidiwch ag aros hyd nes i chi gael eich holl anfonebau cyn cyflwyno’ch Ffurflen TAW derfynol. Pan fyddwch yn eu cael, byddwch yn dal i allu adhawlio TAW.