Codi, adennill a chofnodi TAW

Neidio i gynnwys y canllaw

Adennill TAW ar dreuliau busnes

Gallwch adennill TAW ar eitemau rydych yn eu prynu i’w defnyddio yn eich busnes. Gwnewch hyn yn eich Ffurflen TAW.

Os yw’r eitemau hynny hefyd at ddefnydd personol, dim ond cyfran fusnes y TAW y gallwch ei hawlio.

Enghreifftiau

Mae hanner eich galwadau ffôn symudol yn bersonol. Gallwch adennill 50% o’r TAW ar y pris prynu a’r cynllun gwasanaeth.

Rydych yn gweithio gartref ac mae’ch swyddfa’n cymryd 20% o arwynebedd llawr eich tŷ. Gallwch adennill 20% o’r TAW ar eich biliau cyfleustodau.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion i gefnogi’ch hawliad ac i ddangos sut y gwnaethoch gyfrifo’r gyfran busnes ar gyfer pryniant. Mae’n rhaid i chi hefyd fod ag anfonebau TAW dilys.

Os ydych yn adennill TAW ar nwyddau neu wasanaethau nad ydych wedi talu amdanynt, rhaid i chi ad-dalu CThEM. Gelwir hyn yn ‘adfachu’. Darllenwch yr arweiniad ar adfachu i wybod pryd a sut i ad-dalu TAW yrydych wedi’i hadennill yn flaenorol.

Os ydych yn gwerthu nwyddau sy’n drethadwy a nwyddau sydd wedi’u heithrio

Os ydych yn gwerthu nwyddau sy’n gymysgedd o nwyddau trethadwy a nwyddau sydd wedi’u heithrio, ystyrir bod eich busnes wedi’i ‘eithrio’n rhannol’. Dysgwch am eithriad rhannol a sut i gyfrifo’r hyn y gallwch ei adennill.

Pryniannau a wnaed cyn cofrestru

Gallwch adennill TAW ar nwyddau neu wasanaethau a brynwyd cyn i chi gofrestru ar gyfer TAW os gwnaethoch eu prynu o fewn:

  • 4 blynedd ar gyfer nwyddau sydd gennych o hyd, neu ar gyfer nwyddau a ddefnyddiwyd i wneud nwyddau eraill sydd gennych o hyd

  • 6 mis ar gyfer gwasanaethau

Gallwch dim ond adennill TAW ar bryniannau ar gyfer busnesau sydd bellach wedi cofrestru ar gyfer TAW. Mae’n rhaid iddynt ymwneud â’ch ‘dibenion busnes’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ymwneud â nwyddau neu wasanaethau trethadwy TAW yr ydych yn eu cyflenwi.

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW

Ni allwch adennill TAW ar eich pryniannau - ar wahân i asedion cyfalaf penodol dros £2,000.

Darllenwch adran 15 o’r arweiniad ar y Cynllun Cyfradd Unffurf ar gyfer busnesau bach i weld os gallwch adennill TAW.

Cerbydau

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio’r TAW i gyd ar gar newydd neu ar gerbyd masnachol os ydych yn ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn unig. Mae’n rhaid i chi allu dangos nad yw’n cael ei ddefnyddio ar sail personol, er enghraifft mae wedi’i nodi’n benodol yng nghontract eich cyflogai.

Mae ‘defnydd personol’ yn cynnwys teithio rhwng eich cartref a’ch gwaith, oni bai ei fod yn fan gweithio dros dro.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio’r TAW i gyd ar gar newydd os yw’n cael ei ddefnyddio’n bennaf:

  • fel tacsi

  • ar gyfer gwersi gyrru

  • ar gyfer hunan-yrru ar log

Os ydych yn prynu car at ddefnydd busnes, rhaid i’r anfoneb gwerthu ddangos y TAW.

Os ydych yn llogi car i gymryd lle car cwmni sydd oddi ar y ffordd, fel arfer gallwch hawlio 50% o’r TAW ar y gost o’i logi.

Os ydych yn llogi car at ddefnydd busnes yn unig, gallwch adennill yr holl TAW os byddwch yn ei logi am ddim mwy na 10 diwrnod.

Costau tanwydd

Mae gwahanol ffyrdd o adennill TAW ar danwydd, os nad ydych yn talu cyfradd sefydlog o dan y Cynllun Cyfradd Unffurf.

Gallwch adennill y TAW i gyd ar danwydd os yw’ch cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn unig.

Os ydych yn defnyddio’r cerbyd ar gyfer dibenion busnes a personol, gallwch naill ai:

Mae’n bosibl y byddwch yn dewis peidio ag adennill unrhyw TAW, er enghraifft os yw eich milltiroedd busnes mor isel fel y byddai’r tâl graddfa tanwydd yn uwch na’r TAW y gallwch ei hadennill.

Os ydych yn dewis peidio ag adennill TAW ar danwydd ar gyfer un cerbyd, ni allwch adennill TAW ar unrhyw danwydd ar gyfer cerbydau a ddefnyddir gan eich busnes.

Costau ychwanegol cerbyd

Fel arfer gallwch adennill y TAW ar gyfer:

  • yr holl gostau o ran rhedeg a chynnal a chadw sy’n gysylltiedig â busnes, megis atgyweiriadau neu barcio oddi ar y stryd

  • unrhyw ategolion rydych wedi’u gosod at ddibenion busnes

Gallwch wneud hyn hyd yn oed os na allwch adennill TAW ar y cerbyd ei hun.

Treuliau teithio

Gallwch adennill TAW ar dreuliau teithio cyflogai ar gyfer teithiau busnes. Gall treuliau teithio gynnwys trafnidiaeth, prydau a llety yr ydych yn eu talu. Dysgwch pwy sy’n cael ei ystyried yn gyflogai.

Gallwch adennill TAW ar fathau eraill o dreuliau (nid dim ond y rhai sy’n ymwneud â theithio) ar gyfer pobl hunangyflogedig sy’n cael eu trin fel cyflogeion.

Ni allwch adennill TAW os ydych yn talu cyfradd unffurf i’ch cyflogeion ar gyfer treuliau.

Asedion busnes o £50,000 neu fwy

Mae rheolau arbennig ar gyfer adennill TAW yn y Cynllun Nwyddau Cyfalaf, sy’n golygu bod yn rhaid i chi rannu’r TAW a gafodd ei hawlio yn y lle cyntaf dros nifer o flynyddoedd.

Yr hyn na allwch ei adennill

Ni allwch adennill TAW ar y canlynol: