Rhoi gwybod am newid neu ganslo rhif EORI

Mae sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau yn dibynnu ar:

  • os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW
  • pa fath o rif EORI mae’r newid yn ei gylch (GB neu XI)

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW

Yn dibynnu ar a ydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW neu a ydych wedi newid rhai o’ch manylion, mae yna gamau gwahanol i’w dilyn.

Os ydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW

Bydd CThEF yn canslo’ch rhif EORI ar yr un pryd.

Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r canlynol mwyach:

  • awdurdodiadau’r tollau sydd gennych (er enghraifft, eich awdurdodiad Marchnad Fewnol y DU)
  • trwyddedau sy’n gysylltiedig â’ch rhif EORI

Os oes angen rhif EORI arnoch o hyd, bydd angen i chi wneud cais arall am un.

Er mwyn parhau i ddefnyddio’ch awdurdodiadau’r tollau, cysylltwch â’r swyddfa goruchwylio ar gyfer eich math o awdurdod. Bydd y manylion ar y llythyr a gawsoch pan roddwyd awdurdod i chi.

Er mwyn parhau i ddefnyddio unrhyw drwyddedau, cysylltwch â’r adrannau o’r Llywodraeth a anfonodd y drwydded.

Os gwnaethoch newid eich manylion

Os ydych yn newid unrhyw un o’r canlynol, rhowch wybod i CThEF drwy’ch cyfrif TAW ar-lein er mwyn iddynt allu diweddaru’ch cofnod EORI:

  • enw’r busnes
  • cyfeiriad y busnes
  • yr enw masnachu
  • rhif ffôn y busnes

Ar gyfer unrhyw newidiadau eraill, neu os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi lenwi ffurflen wahanol. Mae yna ffurflenni ar wahân ar gyfer rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB a rhifau EORI sy’n dechrau gydag XI.

Ar gyfer rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB

I ddiweddaru’ch manylion, llenwch y ffurflen newid mewn amgylchiadau ar gyfer EORI GB.

I ganslo’ch rhif, llenwch y ffurflen canslo EORI GB.

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os byddwch yn gofyn i ganslo’ch rhif EORI sy’n dechrau â GB, bydd eich rhif EORI sy’n dechrau gydag XI hefyd yn cael ei ganslo.

Ar gyfer rhifau EORI sy’n dechrau gydag XI

Llenwch ffurflen newid mewn amgylchiadau ar gyfer EORI Xi i ddiweddaru’ch:

  • Sefydliad Busnes Parhaol yng Ngogledd Iwerddon
  • Cyfeirnod TAW yr Undeb Ewropeaidd
  • Cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol
  • Manylion ar gyfer Wiriwr Dilysu EORI yr UE

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hon i ganslo rhif EORI sy’n dechrau gydag XI.

I ddiweddaru manylion eraill, llenwch y ffurflen newid mewn amgylchiadau ar gyfer EORI GB.

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.