Pwy sydd angen EORI

Mae’n bosibl y bydd angen rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI) arnoch os ydych yn symud nwyddau:

  • rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu Ynys Manaw ac unrhyw wlad arall (gan gynnwys yr UE)

  • rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

  • rhwng Prydain Fawr ac Ynysoedd y Sianel

  • rhwng Gogledd Iwerddon a gwledydd y tu allan i’r UE

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen rhif EORI arnoch hefyd i gofrestru ar gyfer trwydded allforio ar SPIRE (yn agor tudalen Saesneg).

Nid oes angen rhif EORI arnoch os ydych yn symud nwyddau sy’n bodloni’r ddau amod canlynol:

  • nid yw’r nwyddau o dan reolaeth

  • maent at ddefnydd personol yn unig

Os yw’ch busnes wedi’i leoli (wedi’i ‘sefydlu’) yn y wlad yr ydych yn symud nwyddau iddi neu ohoni

I gael rhif EORI, fel arfer mae’n rhaid i’ch busnes fod â safle sydd wedi’i leoli yn y wlad yr ydych am fewnforio iddi neu allforio ohoni – yr enw ar hyn yw ‘bod wedi’ch sefydlu’. Mae angen i’ch safle fod yn un o’r canlynol:

  • swyddfa gofrestredig

  • pencadlys canolog

  • sefydliad busnes parhaol – safle ble mae rhai o’ch gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thollau yn digwydd a ble mae’ch adnoddau dynol a’ch adnoddau technegol wedi’u lleoli’n barhaol

Os nad yw’ch busnes wedi’i leoli yn y wlad yr ydych yn symud nwyddau iddi neu ohoni

Dylech gael rhif EORI o hyd os ydych:

Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am rif EORI eich hun, bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg). Bydd yn rhaid i’r person yr ydych yn ei benodi gael y rhif EORI yn eich lle chi.

Os ydych wedi’ch lleoli yn Ynysoedd y Sianel a’ch bod yn symud nwyddau i’r DU neu oddi yno, nid oes angen rhif EORI arnoch. Bydd angen rhif EORI arnoch os ydych yn defnyddio systemau tollau CThEF, megis System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).

Pryd bydd angen eich rhif EORI arnoch

Bydd angen eich rhif EORI arnoch os byddwch yn: