Gwneud cais am rif EORI

Gwneud cais am rif EORI sy’n dechrau gyda GB

I wneud cais am rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI), bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) – dewch o hyd i’ch UTR os nad ydych yn gwybod beth ydyw

  • dyddiad dechrau’ch busnes a’r cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) – mae’r rhain ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg)

  • eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

  • eich rhif TAW a’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym (os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW) – mae’r rhain ar eich tystysgrif cofrestru TAW

  • eich rhif Yswiriant Gwladol – os ydych yn unigolyn neu’n unig fasnachwr

Os nad yw’ch busnes wedi’i leoli yn y DU, nid oes arnoch angen Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) na Rhif Yswiriant Gwladol.

Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth yn barod, byddwch yn gallu creu un wrth wneud cais.

Dechrau nawr

Cewch eich rhif EORI GB ar unwaith, oni bai bod angen i CThEF wneud unrhyw wiriadau ar eich cais. Os bydd angen i CThEF wneud hyn, gall gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith.

Gwneud cais am rif EORI sy’n dechrau gydag XI

Cyn i chi wneud cais, gwiriwch eich bod yn gymwys i gael rhif EORI XI.

Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais am rif EORI GB cyn y gallwch gael rhif EORI XI.

Ar ôl i chi gael eich rhif EORI GB, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gofrestru EORI XI.

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • eich rhif TAW XI (os oes un gennych)

  • unrhyw rifau TAW a gyhoeddwyd gan wlad yn yr UE

  • 2 ddogfen sy’n dangos tystiolaeth o’ch sefydliad busnes parhaol yng Ngogledd Iwerddon – er enghraifft, cyfriflen banc a bil cyfleustodau

Ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth o sefydliad busnes parhaol yng Ngogledd Iwerddon os yw’r canlynol yn berthnasol:

Cewch eich rhif EORI XI cyn pen 5 niwrnod.

Gwirio statws cais

Gallwch wirio statws cais rydych eisoes wedi’i wneud.