Skip to main content

Cael rhif EORI

Sgipio cynnwys

Gwirio pa rif EORI sydd ei angen arnoch

Mae’r gwledydd yr ydych yn symud nwyddau iddynt ac oddi wrthynt yn dylanwadu ar y math o rif EORI y bydd ei angen arnoch ac o ble y byddwch yn ei gael. Efallai y bydd angen mwy nag un arnoch.

Os nad oes gennych y rhif EORI cywir, efallai y bydd oedi wrth gyrraedd y tollau a chostau uwch, er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid storio’ch nwyddau nes i chi gael EORI.

Os ydych yn symud nwyddau i Brydain Fawr neu oddi yno

Os ydych yn symud nwyddau i Brydain Fawr neu oddi yno, mae’n rhaid i chi gael rhif EORI sy’n dechrau gyda GB. Os oes rhif EORI gennych eisoes ac nad yw’n dechrau gyda GB, mae’n rhaid i chi wneud cais am rif EORI GB.

Os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno

Mae’n bosibl y bydd angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI arnoch os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno.

Nid oes angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI arnoch os oes gennych eisoes rif EORI o wlad yn yr UE.

Os bydd eich busnes yn gwneud datganiadau tollau neu’n cael penderfyniad tollau yn yr UE

I wneud datganiad neu i gael penderfyniad tollau yn yr UE, bydd angen y naill neu’r llall o’r canlynol arnoch:

Bydd angen i chi gysylltu â’r awdurdod tollau mewn gwlad yn yr UE os bydd angen rhif EORI yr UE arnoch.

Os na allwch gael rhif EORI y gellir ei ddefnyddio yn yr UE, bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).