Os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno

Fel arfer, bydd arnoch angen rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI) sy’n dechrau gydag XI i wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)

  • symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad arall nad yw’n rhan o’r UE

  • gwneud datganiad yng Ngogledd Iwerddon

  • gwneud cais am benderfyniad tollau yng Ngogledd Iwerddon

Dim ond rhai nwyddau a symudwch o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr y mae angen i chi eu datgan. Gwiriwch a oes angen i chi wneud datganiad allforio ac a fydd arnoch angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI.

Dim ond pobl neu sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE sy’n gallu cael eu henwi fel y ‘datganydd’ ar ddatganiadau mewnforio ac allforio a wneir yng Ngogledd Iwerddon.

Pan nad oes arnoch angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI

Nid oes arnoch angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych rif EORI UE eisoes

  • rydych yn symud nwyddau ar ynys Iwerddon neu rhwng Gogledd Iwerddon a gwlad yn yr UE yn unig

  • mae’ch busnes wedi’i ‘sefydlu’ (â safle) mewn gwlad yn yr UE ond nid yng Ngogledd Iwerddon – yn yr achos hwn, mae’n rhaid i chi wneud cais yn y wlad honno yn yr UE

Os nad yw’ch busnes wedi’i sefydlu (heb safle) yng Ngogledd Iwerddon na’r UE

Mae angen i chi gofrestru gyda’r awdurdodau tollau yn y man lle rydych yn gwneud datganiad am y tro cyntaf neu’n gwneud cais am benderfyniad.

Sut i wneud cais

Ewch ati i gael gwybod sut i wneud cais am rif EORI XI.

Help a chyngor os ydych yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor ar rifau EORI ac ar symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Ewch ati i gael rhagor o arweiniad ar symud nwyddau i Ogledd Iwerddon ac oddi yno (yn agor tudalen Saesneg).