Cynlluniau TAW

Mae cynlluniau TAW wedi’u cynllunio i symleiddio’r ffordd y mae rhai busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn cyfrifo ac yn rhoi cyfrif am TAW i CThEF.

Nid ydynt yn newid swm y TAW y mae busnesau yn ei godi am eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Mae’n wirfoddol i ymuno â nhw.

Cynlluniau manwerthu TAW

Gallwch ddefnyddio un o’r 3 chynllun manwerthu TAW (yn Saesneg) os ydych yn fusnes manwerthu ac yn gwerthu i’r cyhoedd swm sylweddol o eitemau gwerth isel neu eitemau swmp bach sydd â rhwymedigaethau TAW gwahanol.

Mae’r cynlluniau’n caniatáu i chi gyfrifo’r TAW unwaith gyda phob Ffurflen TAW yn hytrach na’i chyfrifo ar gyfer pob gwerthiant a wnewch.

Ni allwch ddefnyddio’r cynlluniau manwerthu os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf neu gynllun gorswm.

Cynlluniau gorswm TAW

Mae cynllun gorswm TAW (yn Saesneg) yn gadael i chi gyfrifo TAW ar y gwerth rydych yn ei ychwanegu at y nwyddau rydych yn eu gwerthu yn hytrach nag ar bris gwerthu llawn pob eitem.

Mae’r cynllun gorswm TAW yn lleihau’r TAW rydych yn ei thalu os ydych yn gwerthu’r canlynol:

  • nwyddau ail-law
  • gwaith celf
  • hynafolion
  • eitemau prin

Dim ond os nad oeddech yn gallu hawlio unrhyw TAW yn ôl pan brynoch y nwyddau y gallwch ddefnyddio’r cynllun.

Dysgwch ragor am gynlluniau gorswm TAW (yn Saesneg).

Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn Saesneg) os yw’ch trosiant trethadwy TAW blynyddol yn £1.35 miliwn neu lai.

Mae’n gadael i chi gwblhau un Ffurflen TAW bob blwyddyn yn hytrach na 4 (un bob 3 mis).

Rydych yn talu rhandaliadau o’r TAW yr ydych yn disgwyl i fod arnoch, fel na chewch fil TAW mawr ar ddiwedd y flwyddyn.

Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol tuag at eich bil TAW diwedd blwyddyn.

Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW (yn Saesneg) os yw’ch trosiant trethadwy TAW blynyddol yn £1.35 miliwn neu lai.

Mae’n golygu eich bod yn talu TAW i CThEF pan fydd eich cwsmer yn eich talu yn hytrach na phan fyddwch yn ei anfonebu.

Dim ond ar ôl i chi dalu’ch cyflenwr y gallwch adennill TAW ar eich pryniannau.

Cynllun Cyfradd Unffurf TAW

Mae’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW (yn Saesneg) yn caniatáu i chi gyfrifo’r hyn sydd arnoch i CThEF mewn TAW fel canran o’ch trosiant gros.

Dim ond os ydych yn fusnes bach gyda throsiant trethadwy blynyddol o £150,000 neu lai heb gynnwys TAW y gallwch ddefnyddio’r cynllun hwn.

Mae swm y TAW rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich diwydiant a’ch math o fusnes.

Os byddwch yn ymuno â’r cynllun hwn, mae’r canlynol yn wir:

  • nid oes rhaid i chi gadw cofnodion manwl o werthiannau ac anfonebau
  • rydych yn talu canran ar gyfradd sefydlog sy’n is na’r gyfradd safonol
  • ni allwch adennill y TAW ar eich pryniannau (ac eithrio asedion cyfalaf penodol dros £2,000)