Llog ar TAW wedi’i thandalu neu ei gordalu

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi llog arnoch os na fyddwch yn talu’r swm cywir o TAW erbyn y dyddiad cau. Os yw ad-daliad TAW yn ddyledus i chi gan CThEF, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael llog.

Dim ond codi neu dalu llog syml (llog ar y swm gwreiddiol, nid llog ar log) y mae CThEF yn ei wneud.

Mae cyfraddau llog gwahanol (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar gyfer treth a oedd wedi’i thandalu neu wedi’i gordalu cyn 27 Awst 2025.

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023

Os nad ydych yn talu digon o TAW

Bydd CThEF yn codi llog am dalu’n hwyr arnoch o’r diwrnod cyntaf y mae’ch taliad yn ddyledus nes i chi dalu’n llawn. 

Mae hyn yn cynnwys symiau sy’n hwyr yn dilyn:

  • Ffurflen TAW

  • diwygiad neu gywiriad i Ffurflen TAW

  • asesiad TAW a wnaed gan CThEF 

  • taliad ar gyfrif o TAW sydd wedi’i fethu

Darllenwch ragor am log am dalu’n hwyr os nad ydych yn talu TAW neu gosbau mewn pryd.

Os ydych yn talu gormod o TAW

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i log ar ad-daliadau ar unrhyw TAW sy’n ddyledus i chi.

Nid oes angen i chi gyflwyno cais am log ar ad-daliadau. Os bydd CThEF yn canfod bod gennych hawl i gael llog ar ad-daliadau, byddwch yn ei gael yn awtomatig. 

Darllenwch ragor am log ar ad-daliadau ar gredydau TAW neu ordaliadau.

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022

Os nad ydych yn talu digon o TAW

Mae’n bosibl y codir llog o 8% arnoch os ydych yn gwneud y canlynol:

  • adrodd am lai o TAW nag ydych yn ei godi, neu hawlio’n ôl mwy nag ydych yn ei thalu

  • talu asesiad y gwnaeth CThEF ganfod wedi hynny ei fod yn rhy isel

  • mae arnoch TAW i CThEF oherwydd camgymeriad ar eich Ffurflen TAW

Defnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein i wirio’r swm sydd arnoch.

Bydd CThEF hefyd yn anfon hysbysiad atoch yn rhoi gwybod i chi am faint sydd arnoch a sut y mae ei gyfrifo.

Os nad ydych yn talu cyn pen 30 diwrnod, codir llog pellach ar y TAW sy’n ddyledus o ddyddiad yr hysbysiad. Codir llog arnoch am yr holl amser nad ydych yn ei dalu, hyd at uchafswm o ddwy flynedd.

Ni allwch ddidynnu’r llog y mae CThEF yn ei godi arnoch wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.

Os ydych yn talu gormod o TAW

Mae’n bosibl y gallwch hawlio llog o 3% os yw camgymeriad CThEF yn golygu’r canlynol:

  • rydych yn talu gormod o TAW

  • nid ydych yn adennill digon o TAW

  • cafodd eich taliad gan CThEF ei oedi

Fel arfer, ni fydd CThEF yn ad-dalu llog os ydych wedi talu gormod o TAW o ganlyniad i gamgymeriad a wnaethoch.

Fel arfer, caiff llog ei dalu am y cyfnod llawn, o’r cyfnod pan ordalwyd neu adhawliwyd y TAW hyd at y dyddiad y caiff yr ad-daliad ei awdurdodi.

Os gwnaethoch achosi oedi i unrhyw daliadau (er enghraifft drwy beidio â hawlio’n syth), gallai CThEF adael i gyfnod y taliad fynd heibio.

Mae’n rhaid i chi hawlio’r llog ar wahân i’r ad-daliad ei hunan.

Ysgrifennwch at CThEF gyda manylion yr ad-daliad, gan egluro pam mae llog yn ddyledus i chi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen pedair blynedd i’r dyddiad pan awdurdododd CThEF yr ad-daliad yn wreiddiol. Defnyddiwch y cyfeiriad post ar y llythyr a gawsoch gan CThEF am eich TAW.

Mae unrhyw log a gewch gan CThEF yn cyfrif fel incwm trethadwy.

Talu llog i’ch cwsmeriaid

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw log cysylltiedig i’ch cwsmeriaid os oes gennych gytundebau ad-dalu â nhw i ad-dalu unrhyw TAW iddynt.

Cysylltwch â’r person yn CThEF a ddeliodd â’ch hawliad os oes angen i chi gael gwybod sut cafodd y llog ei gyfrifo. Gall hyn eich helpu i gyfrifo faint sydd angen i chi ei ad-dalu i bob cwsmer.

Mae’n rhaid i chi roi’r arian yn ôl i CThEF cyn pen 14 diwrnod os na allwch gysylltu â chwsmer i’w ad-dalu.

Herio penderfyniad gan CThEF

Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i godi llog arnoch ond gallwch herio faint o log a godir arnoch.