Canllawiau

Llog am dalu’n hwyr os nad ydych yn talu TAW neu gosbau mewn pryd

O 1 Ionawr 2023 ymlaen, bydd CThEF yn codi llog am dalu’n hwyr ar fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW o’r diwrnod cyntaf mae eu taliad yn hwyr nes iddo gael ei dalu’n llawn.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023, codir llog am dalu’n hwyr arnoch ar daliadau sy’n hwyr. Mae hwn yn un o sawl newid i gosbau a llog sy’n disodli’r gordal diffygdalu TAW presennol.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW sy’n dechrau ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022, darllenwch arweiniad am y gordal diffygdalu TAW (yn Saesneg).

Yr hyn sy’n newid

Mae’r newidiadau’n golygu, os ydych yn talu symiau sy’n gysylltiedig â TAW yn hwyr, bydd gofyn i chi dalu llog am dalu’n hwyr ar y swm sy’n ddyledus o’r diwrnod cyntaf mae’ch taliad yn hwyr hyd at y diwrnod yr ydych yn ei dalu’n llawn.

Os yw’r taliad yn fwy na 15 diwrnod yn hwyr, bydd gofyn i chi hefyd dalu cosb am dalu’n hwyr — gorau po gyntaf y byddwch yn talu, po leiaf fydd y gosb.

Mae’r newidiadau hyn yn symleiddio ac yn gwahanu cosbau a llog.

Sut mae llog am dalu’n hwyr yn gweithio

Mae llog am dalu’n hwyr yn cael ei godi o’r diwrnod cyntaf y mae’r taliad yn hwyr tan y diwrnod y mae’n cael ei dalu’n llawn. Mae’n cael ei gyfrifo ar gyfradd sylfaen Banc Lloegr, ynghyd â 2.5%.

Taliadau sy’n destun llog

Bydd llog yn cael ei godi ar bob taliad sy’n hwyr lle mae TAW yn ddyledus. Mae hyn yn cynnwys symiau sy’n hwyr yn dilyn:

Bydd llog hefyd yn cael ei godi ar bob cosb, os yw’n hwyr, gan gynnwys:

Os telir swm sy’n ddyledus mewn rhandaliadau, megis Trefniant Amser i Dalu, mae CThEF yn codi llog ar y balans sydd heb ei dalu nes i chi dalu’r dreth yn llawn.

Enghraifft o log am dalu’n hwyr

Mae D wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac mae’n rhaid iddo gyflwyno a thalu Ffurflenni TAW chwarterol.

Ar gyfer cyfnod cyfrifyddu D, sy’n rhedeg rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Rhagfyr 2023, y dyddiad cau i gyflwyno’r Ffurflen TAW hon a thalu’r TAW yn llawn yw 7 Chwefror 2024.

Cyflwynodd D y Ffurflen TAW mewn pryd ar 7 Chwefror 2024, gan ddangos bod £8,340 o TAW yn ddyledus. Ni wnaeth D dalu tan 14 Chwefror 2024, wythnos yn hwyrach na’r dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus.

Codir llog am dalu’n hwyr ar D ar £8,340 am 7 diwrnod, o 8 Chwefror 2024 hyd at a chan gynnwys 14 Chwefror 2024.

Ar gyfer yr enghraifft hon, cyfradd sylfaen Banc Lloegr yw 3.5%, sy’n golygu y gyfradd llog ar ad-daliadau yw 6%.

Llog am dalu’n hwyr am 7 diwrnod yw £9.60

(£8,340 x 6% x 7 ÷ 365 diwrnod) = £9.60

Gwirio’ch taliadau llog

Bydd eich cyfrif TAW ar-lein yn rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn gorfod talu llog am dalu’n hwyr. Mewngofnodi i’ch cyfrif TAW ar-lein i ddarganfod sut mae’r llog wedi’i gyfrifo.

Os na allwch dalu’r hyn sydd arnoch mewn pryd

Os na allwch dalu’r dreth sydd arnoch mewn pryd gallwch gael help a chymorth. Cysylltwch â CThEF cyn gynted â phosibl os ydych:

  • wedi methu dyddiad cau ar gyfer talu’ch treth
  • yn gwybod na fyddwch yn gallu talu’ch bil treth mewn pryd

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch dalu’n llawn cyn y dyddiad cau.

Pryd y gallwch wrthwynebu llog taliadau hwyr

Ni allwch apelio yn erbyn eich taliad llog hwyr. Fodd bynnag, gallwch wrthwynebu os yw’r canlynol yn wir:

  • mae CThEF wedi gwneud camgymeriad neu wedi achosi oedi afresymol, ac mae hyn wedi cyfrannu tuag at gronni llog
  • rydych yn anghytuno â’r dyddiad perthnasol neu’r dyddiad talu berthnasol
  • rydych yn cwestiynu’r ddeddfwriaeth

Ni allwn dderbyn gwrthwynebiad i log oni bai eich bod wedi talu’r dreth y codwyd y tâl llog arni yn llawn. Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen i chi drafod hyn ymhellach.

Help a chymorth gyda TAW

Gwyliwch y gweminar, ‘overview of new VAT penalties and interest charges’, sydd wedi’i recordio (yn Saesneg) i ddysgu mwy.

Cyhoeddwyd ar 4 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 February 2024 + show all updates
  1. Guidance on when you can object to late payment interest has been updated.

  2. A new section 'When you can object to late payment interest' has been added.

  3. First published.