Canllawiau

Sut mae cosbau am dalu’n hwyr yn gweithio os byddwch yn talu TAW yn hwyr

Os yw’ch taliad yn fwy nag 15 diwrnod yn hwyr, bydd cosb gyntaf ac ail gosb am dalu’n hwyr yn gymwys. Dysgwch sut i osgoi cosbau a chael help i dalu fesul rhandaliad.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023, mae cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol i daliadau TAW hwyr.

Mae’r gordal diffygdalu TAW yn cael ei ddisodli gan gosbau newydd ar gyfer TAW a gaiff ei thalu’n hwyr a Ffurflenni TAW a gaiff eu cyflwyno’n hwyr. Mae’r ffordd y codir llog hefyd yn newid.

Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar bawb sy’n cyflwyno Ffurflenni TAW, gan gynnwys ffurflenni ad-daliad a ffurflenni ‘dim’. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW a ddechreuodd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022, darllenwch arweiniad ynghylch y gordal diffygdalu TAW (yn Saesneg).

Sut mae cosbau am dalu’n hwyr yn gweithio

Gall cosbau am dalu’n hwyr fod yn berthnasol i unrhyw daliadau TAW na chânt eu talu’n llawn erbyn y dyddiad dyledus perthnasol, ac eithrio:

O ran cosbau am dalu’n hwyr, po gyntaf y byddwch yn talu, yr isaf fydd y gosb.

Gallwch gynnig cynllun talu ar unrhyw adeg a allai olygu cosbau is neu ddim cosbau o gwbl.

Pa daliadau TAW sy’n agored i gosbau am dalu’n hwyr

Gall hyn gynnwys taliad sy’n ddyledus:

  • ar eich Ffurflen TAW
  • yn dilyn diwygiad neu gywiriad i Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gennym pan na wnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gennym am reswm arall

Os na allwch dalu’ch TAW mewn pryd

O’r diwrnod cyntaf y mae’ch taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch yn talu’n llawn, byddwn yn codi llog am dalu’n hwy.

Dylech gysylltu â CThEF cyn gynted â phosibl os ydych yn cael anhawster talu erbyn y dyddiad cau ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu. Gallai hyn atal rhagor o daliadau cosb rhag cael eu hychwanegu at y TAW sy’n ddyledus gennych.

Gofynnwch a allwch dalu fesul rhandaliad

Gallwch ofyn i CThEF am gynllun talu a elwir yn drefniant Amser i Dalu.

Mae trefniant Amser i Dalu yn hyblyg ac yn cael ei addasu i amgylchiadau ariannol penodol unigolyn neu fusnes.

Os bydd CThEF yn cytuno ar drefniant Amser i Dalu gyda chi, gall olygu cosbau is, neu ddim cosbau o gwbl am dalu’n hwyr. Gall gwmpasu’r holl symiau sy’n ddyledus, gan gynnwys cosbau a llog.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i drafod eich sefyllfa ariannol a’r swm y gallwch ei dalu bob mis tuag at y TAW sy’n ddyledus gennych.

Crynodeb o’r cosbau am dalu’n hwyr

Byddwch yn cael cosb gyntaf am dalu’n hwyr os yw’ch taliad 16 diwrnod neu fwy yn hwyr.

Pan fydd eich taliad 31 diwrnod neu fwy yn hwyr, bydd eich cosb gyntaf am dalu’n hwyr yn cynyddu, a byddwch yn cael ail gosb am dalu’n hwyr.

Cosb gyntaf am dalu’n hwyr Ail gosb am dalu’n hwyr
Taliad hyd at 15 diwrnod yn hwyr Dim Dim
Taliad rhwng 16 a 30 diwrnod yn hwyr Wedi’i chyfrifo ar gyfradd o 2% ar y TAW sydd arnoch ar ddiwrnod 15. Dim
Taliad 31 diwrnod neu fwy yn hwyr Wedi’i chyfrifo ar gyfradd o:

• 2% o’r hyn oedd yn ddyledus ar ddiwrnod 15

• plws 2% o’r hyn sy’n dal i fod yn ddyledus ar ddiwrnod 30
Wedi’i chyfrifo:

• ar gyfradd ddyddiol o 4% y flwyddyn ar y balans dyledus

• codir tâl bob dydd o ddiwrnod 31 ymlaen tan i’r balans dyledus gael ei dalu’n llawn

Cymryd camau i osgoi cosbau pellach am dalu’n hwyr

Rhwng 1 a 15 o ddiwrnodau’n hwyr

Er mwyn osgoi cosbau a fydd yn gymwys o ddiwrnod 16, dylech wneud y canlynol:

  • talu’n llawn
  • gofyn am drefniant Amser i Dalu ar neu rhwng diwrnodau 1 a 15

Rhwng 16 a 30 o ddiwrnodau’n hwyr

Er mwyn osgoi cosbau uwch a fydd yn berthnasol o ddiwrnod 31, dylech wneud y canlynol:

  • talu’n llawn
  • gofyn am drefniant Amser i Dalu ar neu hyd at ddiwrnod 30

Yn hwyr ar neu ar ôl diwrnod 31

Er mwyn atal eich ail gosb am dalu’n hwyr a’ch llog rhag cynyddu, dylech wneud y canlynol:

  • talu’n llawn
  • gofyn am drefniant Amser i Dalu ar neu ar ôl diwrnod 31

Cyfnod ymgyfarwyddo

Er mwyn rhoi amser i chi ddod i arfer â’r newidiadau, ni fyddwn yn codi cosb gyntaf am dalu’n hwyr tan ar ôl 31 Rhagfyr 2023. Mae hyn ar yr amod y byddwch, cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad dyledus eich taliad, naill ai’n:

  • talu’n llawn
  • gwneud trefniant Amser i Dalu

Os nad fyddwch yn cadw at drefniant Amser i Dalu

Os na fyddwch yn cadw at amodau’r trefniant Amser i Dalu ar unrhyw adeg, mae’n bosibl y caiff ei ganslo. Os bydd hyn yn digwydd, byddai CThEF yn codi’r gosb gyntaf a’r ail gosb am dalu’n hwyr fel pe na bai’r trefniant Amser i Dalu erioed wedi bodoli.

Apelio yn erbyn cosb am dalu’n hwyr cosb

Os cewch gosb am dalu’n hwyr, bydd CThEF yn dweud wrthych mewn llythyr penderfyniad o gosb. Bydd y llythyr yn cynnig adolygiad i chi gyda CThEF.

Dysgwch sut a phryd y gallwch apelio yn erbyn cosb.

Gallwch ddewis cael adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Mae’n bosibl y bydd eich cosb yn cael ei chanslo neu ei diwygio os oes gennych esgus rhesymol (yn Saesneg).

Gwirio ac apelio yn erbyn cosbau ar-lein

Gallwch wirio manylion cosbau yn eich cyfrif TAW ar-lein a gofyn am adolygiad drwy’ch cyfrif ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein, gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad hwn i ofyn am adolygiad. Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, dinas na blwch Swyddfa’r Post.

Swyddfa’r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor’s Office and Legal Services
HMRC
BX9 1ZT

Enghraifft o gosb am dalu’n hwyr

Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau mewn gweminar wedi’i recordio sy’n rhoi trosolwg o’r cosbau TAW a’r taliadau llog newydd (yn Saesneg).

Mae’r enghraifft hon yn cynnwys senarios o dalu’n hwyr sy’n digwydd ar ôl y cyfnod ymgyfarwyddo.

Mae cwmni yn fanwerthwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac sydd wedi cyflwyno’i Ffurflen TAW ar gyfer mis Mehefin 2024 erbyn y dyddiad cau ar gyfer ei gyfnod adrodd. Ond nid yw CThEF yn cael y £15,000 o TAW sy’n ddyledus ganddo mewn pryd.

Mae’r taliad hyd at 15 diwrnod yn hwyr

Mae CThEF yn anfon nodyn atgoffa am dalu’n hwyr at y cwmni gan ofyn iddo dalu’n llawn er mwyn osgoi cosbau. Mae’n setlo’i fil TAW yn llawn erbyn diwedd diwrnod 15 fel nad yw’n cael cosb am dalu’n hwyr.

Mae’r taliad rhwng 16 a 30 diwrnod yn hwyr

Mae’r cwmni’n gwneud taliad llawn rhwng diwrnod 16 a diwrnod 30 ar ôl i’r TAW fod yn ddyledus. Mae’r gosb gyntaf am dalu’n hwyr yn cael ei chyfrifo ar gyfradd o 2% o’r TAW a oedd yn ddyledus ar ddiwedd diwrnod 15.

Mae CThEF yn codi cosb gyntaf am dalu’n hwyr o 2% o £15,000 = £300

Mae’r taliad 31 diwrnod neu fwy yn hwyr

Mae’r cwmni’n talu’r TAW sy’n ddyledus ganddo 51 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n ddyledus.

Mae CThEF yn codi cosb gyntaf am dalu’n hwyr o £600, wedi’i chyfrifo fel:

  • 2% o’r swm sy’n ddyledus ar ddiwrnod 15 (2% o £15,000 = £300)
  • 2% o’r swm sy’n ddyledus ar ddiwrnod 30 (2% o £15,000 = £300)

Mae CThEF hefyd yn codi ail gosb am dalu’n hwyr, a gyfrifir yn ddyddiol ar gyfradd flynyddol, sy’n cyfateb i 4% ar y swm o £15,000 sydd heb ei dalu.

Mae CThEF yn codi 4% o ddiwrnod 31 pan oedd y taliad yn hwyr, hyd at a chan gynnwys diwrnod 51, pan fydd y cwmni’n talu’n llawn.

Mae hyn yn cyfateb i 21 diwrnod (£15,000 × 4% × 21/365 diwrnod) = £34.50

Cyfanswm y gosb a godir ar y cwmni am dalu 51 diwrnod yn hwyr yw £634.50 sy’n cynnwys:

  • cosb gyntaf o £600 am dalu’n hwyr
  • ail gosb o £34.50 am dalu’n hwyr
Cyhoeddwyd ar 4 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 March 2023 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. '30 days' changed to '15 days' – page summary does not need to reflect the 'period familiarisation'.

  3. First published.