Talu TWE y cyflogwr
Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TWE (yn agor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn:
-
yr 22ain o’r mis treth nesaf os ydych yn talu bob mis
-
yr 22ain ar ôl diwedd y chwarter os ydych yn talu bob chwarter – er enghraifft, 22 Gorffennaf ar gyfer chwarter 6 Ebrill i 5 Gorffennaf
Os byddwch yn talu â siec drwy’r post, bydd yn rhaid iddi gyrraedd CThEF erbyn yr 19eg o’r mis.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr. Mae ffordd wahanol o dalu cosbau.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu ar-lein
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
-
ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr, bydd yn rhaid i chi ychwanegu 4 rhif at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau. Os byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd yn cyfrifo’r rhifau ar eich rhan.
Yr hyn rydych yn ei dalu
Gall eich bil TWE gynnwys y canlynol:
-
didyniadau Treth Incwm y cyflogai
-
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a Dosbarth 1B (yn agor tudalen Saesneg)
-
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar ddyfarniadau terfynu a thystebau chwaraeon
-
ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr
-
didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) (yn agor tudalen Saesneg)
-
eich taliadau Ardoll Brentisiaethau (yn dechrau o fis Ebrill 2017 ymlaen) os oes gennych chi, neu gyflogwyr rydych yn gysylltiedig â nhw, fil cyflog blynyddol o fwy na £3 miliwn
Rydych yn talu’ch Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion ar wahân.
Mae Cytundebau Setliad TWE hefyd yn cael eu talu ar wahân.
Dulliau o dalu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
-
bancio ar-lein neu fancio dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
3 diwrnod gwaith
-
taliad unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
4 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol awtomatig (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).
5 diwrnod gwaith
- taliad unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Llyfrynnau talu
Nid yw CThEF bellach yn anfon llyfrynnau talu wedi’u printio.
Gallwch barhau i dalu treth sy’n ddyledus o flwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu gan ddefnyddio llyfryn talu, os oes gennych un eisoes. I dalu treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, mae’n rhaid i chi ddewis dull arall o dalu.