Talu gan ddefnyddio dull talu arall

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu, heb fylchau. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad hwn:

  • yn eich cyfrif ar-lein CThEF os ydych wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein
  • ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato) 

Talu’ch bil TWE ar-lein

Gallwch dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc gan ddefnyddio’ch manylion bancio ar-lein
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein neu’ch cerdyn wrth law cyn i chi ddechrau.

Talu nawr

Os ydych yn cymeradwyo’r taliad drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Os ydych yn talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu eich bil TWE y cyflogwr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad o’r banc.

Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • gan ffonio’ch banc

Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.

Talu o gyfrif banc yn y DU

Mae’n rhaid i chi dalu i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001039
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

Talu o gyfrif banc tramor

Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc tramor trwy CHAPS.

Mae’n rhaid i chi dalu i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB62 BARC 2011 4770 2976 90
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Faint o amser mae’n ei gymryd

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Fel arfer, mae Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Sawl cynllun TWE

Anfonwch ffurflen ymholiadau CHAPS ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) os hoffech wneud taliad unigol drwy CHAPS ar gyfer mwy nag un cynllun TWE.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec drwy’r post i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) os oes gennych lai na 250 o gyflogeion.

CThEF
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Bydd angen i chi ysgrifennu eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, ar gefn y siec.

Bydd angen i chi hefyd 4 rhif ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.

Slip talu

Gallwch argraffu slip talu (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys hyn gyda’ch siec.

Dim ond er mwyn talu drwy’r post y gallwch ddefnyddio slip talu. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.

Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.