Canllawiau

Talu’r Ardoll Brentisiaethau

Dysgwch pryd y mae’n rhaid i chi dalu’r Ardoll Brentisiaethau, a sut i gyfrifo a rhoi gwybod am eich taliadau.

Pwy sydd angen talu’r Ardoll Brentisiaethau

Mae’r Ardoll Brentisiaethau yn swm a delir ar gyfradd o 0.5% o fil cyflog blynyddol y cyflogwr.

Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi dalu’r Ardoll Brentisiaethau bob mis os yw’r canlynol yn wir:

Mae’r rheolau ar gyfer cwmnïau cysylltiedig yr un peth o ran yr Ardoll Brentisiaethau a’r Lwfans Cyflogaeth.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am yr Ardoll Brentisiaethau a’i thalu bob mis drwy’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.

Mae’n rhaid i bob sector dalu’r ardoll os oes ganddynt fil cyflog blynyddol sy’n fwy na £3 miliwn (gan gynnwys unrhyw gwmnïau neu elusennau cysylltiedig).

Mae gan y sectorau canlynol rheolau penodol ar gyfer talu’r Ardoll Brentisiaethau:

  • masnachfreintiau
  • gweithio oddi ar y gyflogres
  • cwmnïau byrhoedlog
  • cwmnïau gwasanaeth a reolir
  • asiantaethau recriwtio neu asiantaethau cyflogaeth
  • mentrau ar y cyd
  • ysgolion

Eich bil cyflog blynyddol

Eich bil cyflog blynyddol yw’r holl daliadau sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd a wneir i gyflogeion gan y cyflogwr – megis cyflogau, bonysau a chomisiynau.

Mae’n rhaid i’ch bil cyflog gynnwys taliadau i’r canlynol:

Mae’n rhaid i’ch bil cyflog beidio â chynnwys y canlynol:

  • enillion cyflogeion sydd o dan 16 oed
  • enillion cyflogeion nad ydynt yn destun deddfwriaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU
  • enillion sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, megis buddiannau

Cyfraniadau ardoll hyfforddi’r diwydiant

Bydd angen i chi dalu’r Ardoll Brentisiaethau, hyd yn oed os ydych eisoes yn cyfrannu at drefniant ardoll hyfforddi ledled y diwydiant (er enghraifft yr Ardoll Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu).

Cyflogwyr sydd â chynlluniau TWE wedi’u haddasu

Os ydych yn rhedeg cynllun TWE wedi’i addasu, mae angen i chi roi cyfrif am gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ôl yr arfer. Defnyddiwch yr amcangyfrif gorau o’r holl enillion sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd er mwyn gwirio a oes angen i chi dalu’r Ardoll Brentisiaethau. Mae angen i chi gyflwyno Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr bob mis gan ddefnyddio’r ffigurau hyn sydd wedi’u hamcangyfrif.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:

  • cymharu’ch bil cyflog amcangyfrifedig â’r ffigurau gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn dreth
  • cyflwyno Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr ychwanegol er mwyn cywiro unrhyw wahaniaethau a thalu unrhyw Ardoll Brentisiaethau sy’n ddyledus

Defnyddio’ch lwfans Ardoll Brentisiaethau

Mae’r lwfans yn lleihau swm yr Ardoll Brentisiaethau y mae’n rhaid i chi ei dalu gan £15,000 yn ystod y flwyddyn.

Ni allwch drosglwyddo unrhyw lwfans heb ei ddefnyddio i’r flwyddyn dreth nesaf.

Os ydych yn dechrau bod yn gyflogwr, neu’n rhoi’r gorau iddi, ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth, gallwch ddefnyddio’ch lwfans Ardoll Brentisiaethau blynyddol cyfan yn erbyn swm yr ardoll sydd arnoch.

Cyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig ag elusen neu gwmni arall

Bydd gan gyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig ag elusen neu gwmni arall lwfans Ardoll Brentisiaethau o £15,000 bob blwyddyn.

Os nad ydych yn gysylltiedig ag unrhyw gyflogwr arall, ac os nad yw’ch bil cyflog dros £3 miliwn, ni fydd angen i chi dalu’r ardoll.

Cyflogwyr sy’n gysylltiedig ag elusen neu gwmni arall

Bydd gan elusennau, neu gwmnïau, cysylltiedig dim ond un lwfans o £15,000 i’w rannu rhyngddynt.

Os ydych yn gysylltiedig ag unrhyw gyflogwr arall, a bod eich bil cyflog cyfunol o dan £3 miliwn, ni fydd angen i chi dalu’r ardoll.

Sut i rannu’ch lwfans

Gall eich lwfans Ardoll Brentisiaethau o £15,000 gael ei rannu rhwng y canlynol:

  • pob un o’ch cynlluniau TWE
  • eich elusennau neu gwmnïau cysylltiedig

Gallwch benderfynu sut i rannu’r lwfans rhwng eich cynlluniau TWE, neu ei rannu gyda’ch elusennau neu’ch cwmnïau cysylltiedig. Bydd yn rhaid i chi roi gwybod sut y gwnaethoch rannu’ch lwfans y tro cyntaf y bydd yn rhaid i chi dalu’r Ardoll Brentisiaethau. Ni allwch newid eich cyfran chi o’r lwfans yn ystod y flwyddyn dreth.

Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’r lwfans ardoll a rannwyd ar ddechrau’r flwyddyn dreth os gwnaeth y canlynol digwydd ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn:

  • daethoch yn gyflogwr cysylltiedig (megis drwy uno â chwmni arall, neu ei gaffael)
  • newidodd strwythur eich grŵp o gwmnïau cysylltiedig, neu elusennau cysylltiedig (megis drwy wahanu oddi wrth fusnes arall)

Gallwch benderfynu sut i rannu’ch lwfans ardoll ymysg eich cwmnïau cysylltiedig, neu’ch elusennau, ar ddechrau’r flwyddyn dreth nesaf.

Ni allwch newid sut mae’r lwfans wedi’i rannu ymysg elusennau neu gwmnïau cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Gall cyflogwyr sydd â sawl cynllun TWE, ac nad ydynt yn defnyddio’u holl lwfans Ardoll Brentisiaethau yn ystod y flwyddyn, newid sut mae’r lwfans wedi’i rannu ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Gellir gwneud hyn er mwyn gwrthbwyso unrhyw lwfansau sydd heb eu defnyddio yn erbyn un o’ch cynlluniau eraill.

corff cyhoeddus Mae pob (ac eithrio elusennau) yn cael Ardoll Brentisiaethau llawn, gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn gwmnïau cysylltiedig. Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n elusennau ddilyn y rheolau ar gyfer elusennau cysylltiedig.

Mae ymddiriedolaethau y GIG a chyrff gwasanaeth iechyd eraill (megis Byrddau Iechyd yr Alban, Byrddau Iechyd Lleol Cymru ac Ymddiriedolaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn cael eu hystyried yn gwmnïau, ac felly mae’n rhaid iddynt ddilyn y rheolau ar gyfer cwmnïau cysylltiedig.

Cyfrifo’r hyn sydd arnoch

Codir yr Ardoll Brentisiaethau ar 0.5% o’ch bil cyflog blynyddol. Gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol CThEF i’ch helpu i gyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu.

Ar gyfer mis cyntaf y flwyddyn dreth:

  1. Rhannwch eich lwfans Ardoll Brentisiaethau â 12.

  2. Tynnwch y ffigur hwn o 0.5% o’ch bil cyflog misol.

Ar gyfer pob mis dilynol:

  1. Cyfrifwch gyfanswm eich bil cyflog ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

  2. Adiwch eich lwfansau ardoll misol at ei gilydd ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

  3. Tynnwch eich lwfans ardoll ar gyfer y flwyddyn hyd yma o 0.5% o gyfanswm eich bil cyflog ar gyfer y flwyddyn hyd yma.

  4. Tynnwch swm yr ardoll rydych wedi ei dalu yn ystod y flwyddyn hyd yma.

Os ydych yn dechrau talu’r ardoll ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Cyfrifwch faint o’ch lwfans blynyddol sydd wedi’i gronni yn ystod y flwyddyn bresennol.

  2. Rhannwch eich lwfans blynyddol llawn â 12.

  3. Lluoswch hyn â nifer y misoedd sydd wedi mynd heibio ers dechrau’r flwyddyn dreth.

Y ffigur hwn yw’ch lwfans am y mis cyntaf y rhowch wybod am yr ardoll. Gall unrhyw lwfans sydd heb ei ddefnyddio gael ei gario ymlaen i’r mis nesaf yn ystod yr un flwyddyn dreth.

Rhoi gwybod am yr hyn sydd arnoch

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am faint o Ardoll Brentisiaethau sydd arnoch bob mis. Mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn ar ddechrau’r flwyddyn dreth os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • roedd eich bil cyflog blynyddol (gan gynnwys unrhyw gwmnïau neu elusennau cysylltiedig) ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol dros £3 miliwn
  • rydych yn disgwyl i’ch bil cyflog blynyddol (gan gynnwys unrhyw gwmnïau neu elusennau cysylltiedig) ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol fod dros £3 miliwn
  • mae’ch bil cyflog blynyddol (gan gynnwys unrhyw gwmnïau neu elusennau cysylltiedig) yn cynyddu’n annisgwyl dros £3 miliwn – mae’n rhaid i chi ddechrau rhoi gwybod i ni pan fydd hyn yn digwydd

Os ydych wedi dechrau talu’r Ardoll Brentisiaethau, mae’n rhaid i chi barhau i roi gwybod am hyn hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth, hyd yn oed os bydd eich bil cyflog blynyddol yn llai na £3 miliwn yn y pen draw.

Bydd angen i bob elusen neu gwmni cysylltiedig roi gwybod i CThEF am faint o Ardoll Brentisiaethau sydd arnynt.

Rhowch wybod am eich Ardoll Brentisiaethau yn fisol gan ddefnyddio’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr, gan gynnwys y canlynol:

  • swm y lwfans Ardoll Brentisiaethau blynyddol rydych wedi’i ddyrannu i’r cynllun TWE hwnnw
  • swm yr Ardoll Brentisiaethau sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth hyd yma

Does dim angen i chi roi gwybod am yr Ardoll Brentisiaethau ar eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr os nad oedd rhaid i chi ei thalu yn y flwyddyn dreth bresennol.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o unrhyw wybodaeth a ddefnyddiwyd gennych i gyfrifo’ch taliad ardoll. Dylech gadw’r cofnodion hyn am o leiaf 3 blynedd ar ôl y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.

Rhoi gwybod am newidiadau i’ch bil cyflog

Dylech roi gwybod am unrhyw newidiadau i’r Ardoll Brentisiaethau, a ddigwyddodd o ganlyniad i newidiadau i’ch bil cyflog, ar eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr nesaf. Os byddwch yn canfod camgymeriadau yng nghyfanswm eich bil cyflog blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd yn rhaid i chi gyflwyno Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr ychwanegol i ddangos yr Ardoll Brentisiaethau cywir ar gyfer y flwyddyn dreth lawn, ac i dalu’r hyn sydd arnoch.

Sut i dalu

Rydych yn talu’r Ardoll Brentisiaethau bob mis fel rhan o’ch bil TWE. Os ydych wedi gordalu Ardoll Brentisiaethau yn ystod y flwyddyn, byddwch yn cael ad-daliad fel credyd TWE.

Mae taliadau Ardoll Brentisiaethau yn dreuliau didynadwy ar gyfer Treth Gorfforaeth.

Sectorau penodol sy’n gorfod talu’r Ardoll Brentisiaethau

Mae rheolau penodol ar gyfer sectorau penodol, ond mae’n rhaid i bob sector dalu’r ardoll os oes ganddynt fil cyflog blynyddol o fwy na £3 miliwn (gan gynnwys unrhyw elusennau neu gwmnïau cysylltiedig).

Masnachfreintiau

Mae gan fasnachfreintiau lwfans blynyddol o £15,000 ar gyfer yr holl fasnachfreintiau sydd o dan eich rheolaeth. Gallwch ddewis rannu’r lwfans ymysg y masnachfreintiau hynny sydd o dan eich rheolaeth, neu ymysg eich cynlluniau TWE.

Gweithio oddi ar y gyflogres

Mae’n rhaid i chi gynnwys taliadau i gyfryngwyr, megis cwmni gwasanaeth personol, partneriaeth neu unigolyn arall, sy’n destun y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres. Mae hyn yn berthnasol i daliadau ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan gyfryngwyr i’r canlynol:

  • awdurdodau cyhoeddus (o fis Ebrill 2017 ymlaen)
  • cleientiaid maint canolig a mawr y tu allan i’r sector cyhoeddus (o fis Ebrill 2021 ymlaen)

Mae’r taliadau hyn yn cael eu trin fel incwm o gyflogaeth, ac maent yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Nid yw hyn yn berthnasol i daliadau ar gyfer gwasanaethau a ddarperir drwy gyfryngwyr i gleientiaid bach o fewn y sector preifat, neu sydd heb unrhyw gysylltiad â’r DU.

Cwmnïau byrhoedlog

Bydd yn rhaid i gwmnïau byrhoedlog, megis cerbydau diben arbennig, dalu’r ardoll os maent yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd. Byddwch yn cael y lwfans llawn o £15,000 os yw’r cerbyd diben arbennig wedi’i drefnu ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth. Mae’n rhaid i chi wirio a ydych yn gysylltiedig â chwmni neu elusen arall ar ddechrau’r flwyddyn dreth ddilynol.

Cwmnïau gwasanaeth a reolir

Os ydych yn gwmni gwasanaeth a reolir ac yn gysylltiedig â chyflogwr arall, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r ardoll os yw’ch bil cyflog yn llai na £3 miliwn.

Asiantaethau recriwtio neu asiantaethau cyflogaeth

Mae’n rhaid i chi dalu’r ardoll os ydych yn gwneud y canlynol:

  • cyflenwi llafur (gan gynnwys isgontractwyr) i gleient
  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd ar enillion y gweithwyr hynny

Mentrau ar y cyd

Os ydych yn rhan o bartneriaeth menter ar y cyd, lle mae gan 2 gwmni gyfran o 50% yr un o gwmni arall, ni fydd gan yr un cwmni na’r llall reolaeth gyffredinol.

O ganlyniad i hyn, ni fydd y fenter ar y cyd yn gysylltiedig ag unrhyw gwmni arall. Felly, bydd y 2 gwmni, a’r fenter ar y cyd, yn gymwys i gael lwfans ardoll ei hun o £15,000.

Bydd mathau eraill o fenter ar y cyd yn cael lwfans llawn o £15,000 os ydynt wedi cael eu sefydlu ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth. Bydd yn rhaid iddynt wirio a ydynt yn gysylltiedig â chyflogwr arall ar ddechrau’r flwyddyn dreth nesaf er mwyn cyfrifo’r lwfans ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

Ysgolion

Y corff llywodraethol yw’r cyflogwr ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion sefydledig, ysgolion sy’n rhad ac a ddim, ac academïau. Bydd pob corff llywodraethol yn gymwys i gael lwfans o £15,000.

Yr awdurdod lleol yw’r cyflogwr ar gyfer ysgolion eraill a gynhelir. Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol, yn ôl y gyfraith, am dalu’r Ardoll Brentisiaethau ar gyfer yr ysgolion sydd o dan eu rheolaeth. A hynny hyd yn oed os ydynt wedi dirprwyo’r cyfrifoldeb o ran y gyflogres, gan gynnwys talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd. Mae gan bob awdurdod lleol lwfans blynyddol o £15,000.

Yr awdurdod lleol yw’r cyflogwr ar gyfer ysgolion ffydd os yw’n ysgol wirfoddol a reolir. Fel arall, y corff llywodraethol yw’r cyflogwr.

Bydd ymddiriedolaethau aml-academi yn cael un lwfans blynyddol o £15,000.

Os bydd ysgol yn newid i fod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig, ysgol sy’n rhad ac a ddim, neu academi ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth, bydd corff llywodraethol yr academi yn gyfrifol am yr Ardoll Brentisiaethau o’r pwynt hwnnw ymlaen, ac yn cael lwfans llawn o £15,000.

Cyhoeddwyd ar 12 December 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 September 2023 + show all updates
  1. Welsh translation of this guidance has been added.

  2. Information about the off-payroll working rules applying to medium and large-sized clients outside the public sector (from April 2021), has been added.

  3. Guidance on who needs to pay the levy, how to work out what you owe and how to use the levy allowance has been updated.

  4. The section about 'how to allocate your allowance' has been updated.

  5. Additional information added to explain how to apply the Apprenticeship Levy in specific sectors.

  6. First published.