Trosolwg

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Doll Peiriannau Hapchwarae (MGD) os oes gennych beiriannau sy’n rhoi gwobrau ariannol (megis peiriannau ceiniogau, ffrwythau neu gwis) ar eich safle.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nid ydych yn talu’r doll ar unrhyw un o’r canlynol:

  • peiriannau lle bo’r wobr yn llai na’r gost o chwarae
  • enillion a gafwyd o ddigwyddiadau ar gyfer elusennau, twrnameintiau neu beiriannau loteri
  • peiriannau at ddefnydd domestig

Mae enillion o beiriannau hapchwarae wedi’u heithrio rhag TAW os ydych yn talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae.

Pwy sy’n gorfod cofrestru a thalu

Rydych chi’n gyfrifol am gofrestru ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae, ac am roi gwybod amdani a’i thalu, os mai chi yw deiliad presennol unrhyw un o’r canlynol ar gyfer y safle:

  • trwydded ar gyfer hapchwarae neu werthu alcohol
  • trwydded peiriannau hapchwarae ar gyfer canolfan adloniant teuluol
  • tystysgrif safle clwb
  • trwydded peiriannau neu drwydded hapchwarae ar gyfer clwb
  • trwydded hapchwarae am wobrwyon neu drwydded ddiddanu
  • tystysgrif cofrestru clwb
  • trwydded swyddfa bwci neu drwydded clwb bingo

Mae rheolau gwahanol os ydych yn denant tafarn. Chi sy’n gyfrifol am y Doll Peiriannau Hapchwarae, nid perchennog y drwydded safle (fel arfer perchennog y dafarn).

Os nad yw’r safle’n drwyddedig, y rheolwr neu’r perchennog fydd yn gorfod cofrestru. Os ydych ond yn darparu’r peiriannau, nid ydych yn gyfrifol am y doll.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

Os ydych yn gyfrifol am y doll, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Cofrestru ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae cyn i’ch peiriannau fod ar gael i’w chwarae.

  2. Cyfrifo’r hyn sydd arnoch ac anfon Ffurflen Dreth i CThEF bob 3 mis.

  3. Talu’r hyn sydd arnoch cyn pen 30 diwrnod ar ôl anfon Ffurflen Dreth.

  4. Cadw cofnodion o’r enillion o’ch peiriannau hapchwarae a’ch Ffurflenni Treth am 4 blynedd.

Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gyfrifol am y doll – er enghraifft os bydd eich tenantiaeth tafarn yn dod i ben, neu os byddwch yn cael gwared ar y peiriannau – bydd yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad. Os na fyddwch yn canslo, bydd CThEF yn parhau i ofyn am Ffurflenni Treth gennych a thaliadau yn seiliedig ar amcangyfrifon o’r hyn sydd arnoch (a elwir yn ‘asesiadau canolog’).

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na fyddwch yn cofrestru pan ddylech chi.