Sut i hawlio

Gallwch hawlio Budd-dal Plant 48 awr ar ôl i chi gofrestru genedigaeth eich plentyn, neu unwaith y daw plentyn i fyw gyda chi.

Gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant am hyd at 3 mis.

Penderfynu pwy ddylai hawlio

Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn, felly bydd angen i chi benderfynu a yw’n well i chi neu’r rhiant arall hawlio. Bydd y person sy’n hawlio’n cael credydau Yswiriant Gwladol tuag at ei bensiwn y Wladwriaeth os nad yw’n gweithio.

Gwneud hawliad ar-lein

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud hawliad am Fudd-dal Plant neu i ychwanegu plentyn arall i hawliad sy’n bodoli eisoes.

Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho, argraffu ac anfon eich ffurflen wedi’i llenwi i CThEF, ynghyd ag unrhyw ddogfennau y bydd angen i chi eu cyflwyno.

Dechrau nawr

Gwyliwch y fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am sut i hawlio Budd-dal Plant ar-lein.

Fideo ynghylch sut i hawlio Budd-dal Plant ar-lein ar YouTube (yn Saesneg).

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn
  • eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif Yswiriant Gwladol eich partner, os oes un gennych

Gallwch archebu tystysgrif geni neu fabwysiadu newydd (yn Saenseg) os ydych wedi colli’r gwreiddiol.

Os cofrestrwyd genedigaeth eich plentyn y tu allan i’r DU

Bydd angen i chi anfon:

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu gwreiddiol eich plentyn
  • pasbort eich plentyn, neu’r dogfennau teithio a ddefnyddiodd i ddod i mewn i’r DU

Fel arfer, bydd unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu hanfon yn cael eu dychwelyd cyn pen 4 wythnos.

Os nad oes gennych y dystysgrif sydd ei hangen arnoch, gwnewch hawliad nawr ac anfonwch y dystysgrif pan fydd yn eich meddiant.

Dulliau eraill o hawlio

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch hawlio:

Hawlio Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Efallai y gallwch reoli hawliad Budd-dal Plant rhywun arall.