Gwneud newid i’ch hawliad

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i’r Swyddfa Budd-dal Plant. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:

  • eich bywyd teuluol, er enghraifft, priodi
  • bywyd eich plentyn, er enghraifft, mae’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant

Newid pwy sy’n cael Budd-dal Plant

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os hoffech i rywun arall hawlio Budd-dal Plant, er enghraifft, eich priod neu’ch partner.

Ar ôl i chi wneud hyn, dywedwch wrth y person arall am wneud hawliad newydd.

Optio allan o gael taliadau neu eu hailddechrau

Gallwch wneud hawliad a dewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant unrhyw bryd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn optio allan o gael taliadau gan fod eich incwm blynyddol dros £60,000 ac nad ydych yn dymuno talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Byddwch yn dal i gael y manteision eraill a ddarperir gan Fudd-dal Plant, megis credydau Yswiriant Gwladol.

Gallwch ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant unrhyw bryd.