Budd-dal Plant pan fo’ch plentyn yn troi’n 16 oed

Gallwch gael Budd-dal Plant nes bod eich plentyn yn troi’n 20 oed os yw’n cael math penodol o addysg neu hyfforddiant a bod y canlynol yn berthnasol:

  • mae’r plentyn wedi cael ei dderbyn ar y cwrs cyn iddo droi’n 19 oed
  • nid yw’r plentyn yn cael Credyd Cynhwysol

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am ei addysg neu hyfforddiant. Dim ond y person sy’n hawlio Budd-dal Plant all wneud hyn.

Mae’n bosibl yr anfonir llythyr atoch yn ystod blwyddyn olaf eich plentyn yn yr ysgol sy’n gofyn i chi roi gwybod i CThEF beth yw ei gynlluniau.

Bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben yn awtomatig ar 31 Awst ar neu ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant
  • nid ydych yn rhoi gwybod i CThEF ei fod yn parhau â’i addysg neu hyfforddiant
  • nid yw’r math o addysg neu hyfforddiant y mae’ch plentyn yn ei gael yn gymwys ar gyfer Budd-dal Plant

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwirio a yw addysg eich plentyn yn gymwys

Gallwch gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn mewn addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch.

Mae’n rhaid bod y plentyn yn astudio am o leiaf 12 awr bob wythnos ar gyfartaledd, a hynny o dan oruchwyliaeth neu wrth wneud profiad gwaith sy’n ymwneud â’r cwrs i gael ei ystyried mewn addysg amser llawn. Os oes gan eich plentyn salwch neu anabledd, gall wneud llai o oriau os yw hynny’n addas.

Mae addysg nad yw’n addysg uwch yn cynnwys:

  • Lefelau A neu debyg – er enghraifft, y Fagloriaeth Ryngwladol
  • Lefelau T
  • TGAU
  • Scottish Highers
  • NVQs a’r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol hyd at lefel 3
  • addysg yn y cartref
  • rhaglenni astudio yn Lloegr
  • cyn-brentisiaeth

Addysg lle na allwch gael Budd-dal Plant

Ni allwch gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn astudio ar gyfer:

  • gradd prifysgol
  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC
  • cwrs cyn-radd - diploma sylfaen neu gwrs mynediad at addysg uwch, er enghraifft
  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) lefel 7
  • Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE)

Gwirio a yw hyfforddiant eich plentyn yn gymwys

Gallwch gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn gwneud cwrs ‘hyfforddiant cymeradwy’ di-dâl.

Mae hyfforddiant cymeradwy yn cynnwys:

  • yng Nghymru: Prentisiaethau Sylfaenol, Hyfforddeiaethau neu gynllun Twf Swyddi Cymru+
  • yn yr Alban: rhaglen No One Left Behind
  • yng Ngogledd Iwerddon: ‘PEACEPLUS Youth Programme 3.2’, ‘Training for Success’ neu ‘Skills for Life and Work’

Hyfforddiant lle na allwch gael Budd-dal Plant

Ni allwch gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn:

  • ar brentisiaeth (oni bai mai Prentisiaeth Sylfaenol yng Nghymru ydyw)
  • yn gwneud cwrs gyda chytundeb cyflogwr - er enghraifft, er mwyn cael swydd gyda’r cyflogwr hwnnw, neu er mwyn datblygu sgiliau ar gyfer swydd sydd ganddo yn barod
  • yn gwneud cwrs hyfforddiant sy’n rhan o gontract swydd

Rhowch wybod i CThEF a yw’ch plentyn yn parhau ag addysg neu hyfforddiant

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os yw’ch plentyn yn parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy.

Pan fydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant

Os bydd eich plentyn yn cwblhau ei gwrs, bydd taliadau’n stopio ar ba bynnag un o’r dyddiadau hyn sy’n dod gyntaf:

  • diwedd mis Chwefror
  • 31 Mai
  • 31 Awst
  • 30 Tachwedd

Os yw’ch plentyn yn gadael y cwrs cyn ei gwblhau, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF fod eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy(yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi gordaliadau. Os ydych chi’n cael taliadau na ddylech eu cael, efallai y bydd angen i chi eu talu’n ôl.

Os yw’ch plentyn yn cymryd seibiant dros dro o addysg neu hyfforddiant

Cysylltwch â CThEM (yn agor tudalen Saesneg). Efallai y cewch Fudd-dal Plant yn ystod y seibiant.

Gwneud cais am estyniad

Mae’n bosibl y gallech gael Budd-dal Plant am 20 wythnos (a elwir yn ‘estyniad’) os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant ac yn cofrestru gyda naill ai:

  • ei wasanaeth gyrfaoedd lleol, Connexions (neu sefydliad tebyg yng Ngogledd Iwerddon, yr Undeb Ewropeaidd (yn agor tudalen Saesneg), Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein)
  • y Weinyddiaeth Amddiffyn, er enghraifft er mwyn ymuno â’r Lluoedd Arfog

Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Mae’n rhaid i’ch plentyn fod:

  • yn 16 neu’n 17 oed
  • yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos
  • yn peidio â chael budd-daliadau penodol (er enghraifft Credyd Cynhwysol)

Mae’n rhaid i chi fod wedi bod â hawl i Fudd-dal Plant yn union cyn i’r plentyn adael yr addysg neu’r hyfforddiant a rhaid gwneud cais amdano cyn pen 3 mis ar ôl iddo adael.

Os oes unrhyw beth arall yn newid

Dysgwch sut i roi gwybod am newidiadau sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant.

Os na allwch roi gwybod ar-lein

Gallwch gysylltu â CThEF