Cymhwystra

Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn.

Fel arfer, rydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am blentyn o dan 16 oed, a’ch bod yn byw yn y DU.

Rydych fel arfer yn gyfrifol am blentyn os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn byw gyda’r plentyn
  • rydych yn talu o leiaf yr un swm â Budd-dal Plant (neu’r swm cyfatebol mewn nwyddau) tuag at ofalu am y plentyn – er enghraifft, ar fwyd, dillad neu arian poced

Mae’r rheolau cymhwystra’n wahanol os yw’ch plentyn yn:

Pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oed neu’n hŷn

Fel arfer, byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn o dan 20 oed ac yn parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy.

Gallwch wneud cais i gael 20 wythnos ychwanegol o Fudd-dal Plant os yw’ch plentyn yn 16 neu’n 17 oed ac yn gadael addysg neu hyfforddiant er mwyn cofrestru gyda’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • gwasanaeth gyrfaoedd a noddir gan y llywodraeth
  • gwasanaethau arfog

Dysgwch ragor am Fudd-dal Plant pan fo’ch plentyn yn troi’n 16 oed neu’n hŷn.

Maethu plentyn

Cewch Fudd-dal Plant os byddwch yn maethu plentyn, ar yr amod nad yw’r cyngor lleol yn talu dim byd tuag at lety neu gynhaliaeth y plentyn.

Mabwysiadu plentyn

Gallwch hawlio Budd-dal Plant cyn gynted ag y bydd unrhyw blentyn rydych yn ei fabwysiadu yn dod i fyw gyda chi – does dim rhaid i chi aros hyd nes y bydd y broses fabwysiadu wedi’i chwblhau.

Efallai y gallwch gael Budd-dal Plant am gyfnod cyn mabwysiadu’r plentyn – cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant i gael gwybod.

Gofalu am blentyn rhywun arall

Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os oes gennych drefniant anffurfiol i ofalu am blentyn ffrind neu berthynas.

Efallai na fyddech yn gymwys os yw’ch cyngor lleol yn talu tuag at lety neu gynhaliaeth y plentyn – cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant i gael gwybod.

Ni all dau berson gael Budd-dal Plant ar gyfer yr un plentyn. Os ydych chi a rhywun arall yn gyfrifol am yr un plentyn, bydd angen i chi gytuno rhyngoch chi pwy fydd yn cael y Budd-dal Plant. Os na fyddwch yn gallu dod i gytundeb, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn penderfynu pwy fydd yn ei gael.

Mae’n bosibl hefyd y bydd gennych hawl i Lwfans Gwarcheidwad os ydych yn gyfrifol am blentyn sydd wedi colli un o’i rieni, neu’r ddau ohonynt.

Byw dramor

Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ewch i fyw mewn gwledydd penodol neu os ydych yn was y Goron (yn Saesneg).

Os oes gennych statws preswylydd sefydlog drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Os oes gennych statws preswylydd sefydlog, gallwch hawlio Budd-dal Plant.

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Gallwch hawlio Budd-dal Plant os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol.

Os ydych yn gweithio

Mae’n rhaid i chi ennill, neu ddisgwyl ennill, mwy na’r Prif Drothwy (PD) ar gyfer cyflogeion sy’n talu Yswiriant Gwladol am 3 mis yn olynol.

Os ydych yn chwilio am waith

Gallwch barhau i hawlio Budd-dal Plant am 91 diwrnod os ydych yn geisiwr gwaith, oni bai eich bod yn cael cynnig swydd.

Mae’n rhaid i chi fod â thystiolaeth sy’n dangos bod gennych siawns wirioneddol o ddod o hyd i waith. Gallai hyn fod yn wahoddiad i gyfweliad neu’n dystiolaeth o gofrestru gydag asiantaeth swyddi.

Os oes gennych ddigon o adnoddau i gynnal eich hun yn ariannol

Gallwch hawlio Budd-dal Plant os oes gennych ddigon o adnoddau i gynnal eich hun yn ariannol. Mae hyn yn golygu nad ydych yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, Credyd Pensiwn na Chredyd Cynhwysol.

Os ydych yn astudio

Mae’n rhaid i chi fod â digon o adnoddau i gynnal eich hun yn ariannol.

Os ydych yn aelod o deulu rhywun sy’n wladolyn yr AEE neu’r Swistir sydd â hawl i breswylio yn y DU

Gallwch hawlio Budd-dal Plant os mai chi yw:

  • ei briod neu bartner sifil
  • ei blentyn neu ŵyr/wyres sy’n ddibynnol arno, neu sydd o dan 21 oed
  • ei riant neu riant cu sy’n ddibynnol arno

Os ydych yn symud i’r DU

Gwiriwch a allwch gael Budd-dal Plant os ydych yn symud i’r DU (yn Saesneg) a bod gennych hawl i breswylio yn y DU.

Os bydd eich plentyn yn dechrau gweithio neu’n cael budd-daliadau yn ei enw ei hun

Bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben os bydd eich plentyn yn:

  • dechrau gwaith taledig am 24 awr neu fwy yr wythnos, ac os nad yw mewn addysg na hyfforddiant cymeradwy mwyach
  • dechrau prentisiaeth yn Lloegr (yn Saesneg)
  • dechrau cael budd-daliadau penodol, megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu Gredyd Cynhwysol

Gwiriwch yr hyn sy’n cael ei gyfrif fel addysg neu hyfforddiant cymeradwy pan fo’ch plentyn yn troi’n 16 oed.

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os nad ydych yn sicr a ydych yn gymwys.