Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw
Os yw plentyn yn marw
Fel arfer, byddwch yn cael Budd-dal Plant am 8 wythnos ar ôl i’r plentyn farw. Os byddai’r plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn 20 cyn diwedd yr 8 wythnos, byddai’r Budd-dal Plant yn dod i ben ar y dydd Llun canlynol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os yw babi newydd-anedig yn marw
Mae gennych hawl i hyd at 8 wythnos o Fudd-dal Plant os ydych yn hawlio o fewn 3 mis i’r farwolaeth.
Os bu farw’r plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni, mae’r cyfnod o 8 wythnos yn dechrau ar y dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.
Os ydych eisoes wedi hawlio
Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd Dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn rydych yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer yn marw.
Os nad ydych wedi hawlio eto
Os bu farw’r plentyn cyn i chi hawlio Budd-dal Plant, gallwch anfon ffurflen hawlio atom o hyd (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig). Ni allwch hawlio ar-lein.
Sut i hawlio
-
Dylech gynnwys nodyn â dyddiad marwolaeth y plentyn.
-
Rhowch eich manylion cyswllt a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar y nodyn.
-
Anfonwch rif cofrestru genedigaeth y plentyn (a ddangosir ar dystysgrif geni’r plentyn) neu dystysgrif fabwysiadu’r plentyn gyda’ch ffurflen hawlio (nid oes rhaid i chi anfon ei dystysgrif marwolaeth).
Os nad oes gennych dystysgrif geni neu fabwysiadu’r plentyn, gallwch archebu un newydd (yn agor tudalen Saesneg) ac anfon rhif cofrestru’r enedigaeth neu’r dystysgrif mabwysiadu yn ddiweddarach.
Gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant am hyd at 3 mis. Hawliwch cyn gynted â phosibl i gael yr hyn y mae gennych hawl iddo.
Os gwnaethoch optio allan o gael Budd-dal Plant
Mae dal angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn marw. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych wedi optio allan am unrhyw reswm, fel y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant a gewch ar ôl i’r plentyn farw.