Cymhwyster

Mae Lwfans Rhiant Gweddw (WPA) yn cael ei ddisodli gan Daliad Cymorth Profedigaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dim ond os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2017 y gallwch wneud cais am WPA. Pan fu farw, mae’n rhaid eich bod chi a’ch partner naill ai wedi bod:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • yn cyd-fyw fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Os oeddech chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, rhaid bod eich partner wedi cael eu datgan yn farw yn ddiweddar. Bydd angen i chi gadarnhau achos marwolaeth.

Rhaid i bob un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • rydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • talodd eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil gyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu eu bod wedi marw o ganlyniad i ddamwain diwydiannol neu afiechyd
  • rydych yn gymwys i Fudd-dal Plant am o leiaf un plentyn

Gallwch hefyd hawlio WPA os oeddech yn feichiog pan fu farw eich gŵr, neu roeddech yn feichiog ar ôl driniaeth ffrwythlondeb pan fu farw eich partner sifil neu wraig.

Pryd ni allwch hawlio WPA

Ni allwch hawlio WPA os:

  • oeddech wedi ysgaru neu wedi dod â’ch partneriaeth sifil i ben pan fu farw eich partner
  • nad oeddech yn byw gyda’ch partner mwyach pan fu farw
  • ydych wedi ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd
  • ydych yn byw gyda pherson arall fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil gyda nhw
  • oeddech dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan oeddech yn weddw neu pan ddaethoch yn bartner sifil sy’n goroesi – efallai y gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol
  • ydych yn y carchar