Sut i wneud cais

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Rhaid i chi naill ai:

  • lawrlwytho a llenwi ffurflen BB1](/government/publications/bereavement-benefits-claim-form.cy), os oeddech chi a’ch partner yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan wnaethant farw
  • lawrlwytho a llenwi ffurflen BB2, os oeddech chi a’ch partner yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan wnaethant farw.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i:

Dover Benefit Centre
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1LA

Ffyrdd eraill i wneud cais

Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth i ofyn am fformatau amgen o’r pecyn cais, fel braille, print bras neu CD sain.

Llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth
Ffôn: 0800 151 2012
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Iaith Gymraeg: 0800 731 0453

Gwasanaeth cyfnewid fideo (BSL) video relay service os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen

Ffôn testun: 0800 731 0464
Iaith Gymraeg: 0800 731 0456

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon

Ffoniwch y Bereavement Service yng Ngogledd Iwerddon and choose option 3.

Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi Ffurflen gais Lwfans Rhiant Gweddw. Anfonwch ef i’r cyfeiriad ar y ffurflen gais.

Os ydych yn byw dramor

Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol i ddarganfod a allwch wneud cais os ydych wedi symud dramor.

Canolfan Bensiwn Ryngwladol
Ffôn: +44 191 21 87608
Darganfyddwch am gostau galwadau

Department for Work and Pensions
Bereavement and widows’ benefits
International Pension Centre
Tyneview Park
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1BA

Rhaid i chi gynnwys eich:

  • enw llawn
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ei wybod)

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hwn hefyd yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.