Lwfans Rhiant Gweddw

Neidio i gynnwys y canllaw

Newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Ganolfan Budd-daliadau Dover os:

  • nad ydych bellach yn gymwys i Fudd-dal Plant
  • ydych yn ail-briodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • ydych yn dechrau byw gyda phartner fel gŵr a gwraig, neu fel petaech wedi ffurfio partneriaeth sifil

Canolfan Budd-daliadau Dover Ffôn: 0800 151 2012
Relay UK(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Dover Benefit Centre
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1LA

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, dywedwch wrth y Bereavement Benefits section yn lle.

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Efallai bydd rhaid i chi dalu’r arian yn ôl os:

  • na wnaethoch roi gwybod am newid yn syth
  • ydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • cawsoch eich gordalu trwy gamgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus o ordaliad budd-dal.