Optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Os ydych yn optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, rydych yn parhau i fod wedi’ch cofrestru ar gyfer Budd-dal Plant ond nad ydych yn cael y taliadau.

Ni fyddai’n rhaid i chi dalu’r tâl treth, ond byddwch yn parhau i gael y canlynol:

  • credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth
  • rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer eich plentyn heb iddo orfod gwneud cais am un – fel arfer, bydd yn cael y rhif ychydig cyn iddo gael ei ben blwydd yn 16 mlwydd oed

Sut i optio allan

I optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu lenwi’r ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post i optio allan.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein na’r ffurflen ar-lein os taw penodai ydych neu asiant awdurdodedig.

Ni allwch optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant os ydych yn eu defnyddio i ad-dalu gordaliad neu i ad-dalu rhai budd-daliadau eraill o wlad arall.

Cyfrifoldebau ar ôl i chi optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dâl treth sydd arnoch am bob blwyddyn dreth hyd at y dyddiad y daw eich taliadau Budd-dal Plant i ben.

Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth ar gyfer Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif faint a allai fod arnoch bob blwyddyn dreth.

Hyd yn oed os byddwch yn optio allan o gael taliadau, mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol sy’n effeithio ar eich hawl i Fudd-dal Plant.