Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Sgipio cynnwys

Awdurdodiad

Dim ond gyda’r person sydd wedi’i enwi ar y ffurflen hawlio (neu ei enwebai) y gall y llinell Gymorth Budd-dal Plant drafod hawliad. Gall partner, neu unrhyw berson arall, gael cymorth cyffredinol, ond mae’n rhaid bod ganddo ‘awdurdodiad’ er mwyn trafod hawliad gyda’r llinell gymorth.

Mae’r broses yn wahanol os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid, neu os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu.

Cael awdurdodiad

Mae’n rhaid i’r hawliwr lenwi’r ffurflen CH105, neu ysgrifennu llythyr sy’n cynnwys yr un wybodaeth, a’i yrru at y Swyddfa Budd-dal Plant – mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd yr awdurdodiad yn gyfredol am 12 mis, oni bai bod dyddiad dod i ben gwahanol yn cael ei nodi ar y ffurflen. Fel arfer, bydd awdurdodiad yn cymryd 2 ddiwrnod o’r dyddiad y mae’r ffurflen yn dod i law. Gan amlaf, ni fyddwch yn cael llythyr i gadarnhau’r awdurdodiad.

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant angen cael ffurflen hawlio Budd-dal Plant yr hawliwr.

Gall mwy nag un person gael awdurdodiad, ond mae’n rhaid i bob un anfon ffurflen CH105.

Os ydych yn gweithredu ar ran llawer o gleientiaid

Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant er mwyn cofrestru fel ‘sefydliad cyfryngwyr’ os ydych yn gweithio yn y sector gwirfoddol ac yn gweithredu ar ran llawer o bobl.

Gallwch gael awdurdodiad os ydych yn sefydliad cyfryngwyr, a bod eich cleient yn rhoi ffurflen CH105 sydd wedi’i llenwi i chi. Mae’n rhaid i chi gadw ffurflen CH105 eich cleient am 7 mlynedd o’r dyddiad y cafodd ei harwyddo.

Os ydych yn asiant sy’n cael ei dalu

Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu delio â Budd-dal Plant ar ei ran.

Er mwyn eich awdurdodi i ddelio â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, bydd angen i’r cleient lenwi’r ffurflen CH995.

Canslo awdurdodiad

Gall awdurdodiad gael ei ganslo drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant.