Budd-dal Plant: ymholiadau cyffredinol

Cysylltwch â CThEF i gael gwybodaeth am gymhwystra, hawlio Budd-dal Plant a rhoi’r gorau i’w gael, newid eich manylion personol, a gwneud cwyn.

Ffôn

Ffoniwch CThEF am wybodaeth ynghylch cymhwystra, hawlio ac atal hawlio Budd-dal Plant, newid eich manylion personol a gwneud cwyn.

Gall CThEF ond trafod eich hawliad gyda chi neu rywun yr ydych wedi ei awdurdodi fel cynrychiolydd i chi. Gall partner neu rywun arall gael cyngor cyffredinol ond rhaid ei fod wedi’i awdurdodi i drafod hawliad gyda’r llinell gymorth.

Ffôn: 0300 200 1900

Ffôn testun: 0300 200 3103

Tu allan i’r DU: +44 300 200 1900

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 08:30 i 17:00. Ar gau ar wyliau banc.

Gwnewch yn siŵr bod eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif Budd-dal Plant wrth law pan fyddwch yn ffonio.

Darganfyddwch am gostau galwadau

Post

Ysgrifennwch i CThEF am wybodaeth ynghylch cymhwystra, hawlio ac atal hawlio Budd-dal Plant, newid eich manylion personol a gwneud cwyn.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
United Kingdom

Os ydych yn anfon cwyn, ysgrifennwch ‘cwyn’ ar yr amlen.

Cynnwys cysylltiedig

Cynnwys yn yr iaith Gymraeg sydd ar gael ar GOV.UK

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Mai 2025