Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Sgipio cynnwys

Os yw eich plentyn yn cael baban

Os yw plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano yn cael baban, gallant hawlio Budd-dal Plant neu gallwch hawlio ar ei ran, ac ar ran y baban.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os yw eich plentyn yn hawlio Budd-dal Plant, byddant yn cael y canlynol:

Os ydych yn hawlio ar ei ran:

  • byddwch yn cael £17.25 yr wythnos am bob plentyn ychwanegol y byddwch yn hawlio ar ei gyfer – os ydych yn talu’r Taliad Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, ni fyddwch yn cael arian ychwanegol
  • ni fydd eich plentyn yn cael credydau Yswiriant Gwladol

I un cyfrif yn unig y gall Swyddfa Budd-dal Plant dalu’r budd-dal. Gall hwn fod yn gyfrif ar y cyd sydd gennych â’ch plentyn.