Talu’r tâl treth drwy Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi dalu tâl treth drwy Hunanasesiad os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth am reswm arall, er enghraifft os ydych yn dod yn hunangyflogedig

  • mae hi’n hwyrach na 31 Ionawr yn ystod y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth y mae angen i chi dalu ar ei chyfer

Fel arall, cewch ddewis talu’r tâl treth drwy TWE.

Sut i dalu drwy Hunanasesiad

  1. Cofrestrwch ar gyfer Hunanasesiad.

  2. Llenwch Ffurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn dreth a thalu’r hyn sydd arnoch.

Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n rhaid i chi dalu’r tâl treth ar ei chyfer.

Mae’n bosibl y cewch gosb os oes angen i chi gofrestru drwy Hunanasesiad ond nad ydych yn cofrestru ar ei gyfer neu os nad ydych yn datgan Budd-dal Plant ar eich Ffurflen Dreth.

Cewch lythyr yn rhoi gwybod i chi am yr hyn i’w wneud nesaf ar ôl gofrestru.

Cofrestru nawr

Newid o dalu drwy Hunanasesiad i dalu drwy TWE

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF dros y ffôn er mwyn rhoi gwybod eich bod am stopio talu drwy Hunanasesiad.

Os na allwch gael gwybodaeth gan eich partner neu gyn-bartner

Gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF) i ofyn p’un a yw’ch partner neu gyn-bartner yn cael Budd-dal Plant, neu a yw ei incwm yn uwch na’ch incwm chi. Bydd CThEF yn rhoi ateb i chi – ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i chi. 

Gallwch ond ofyn am yr wybodaeth hon os ydych chi a’ch partner naill ai’n byw gyda’ch gilydd neu wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych am gael gwybodaeth ar ei chyfer.

Ysgrifennu at CThEF

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pa flwyddyn dreth yr ydych yn gofyn yn ei chylch, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol amdanoch:

Os gallwch, rhowch yr wybodaeth ganlynol am eich partner neu gyn-bartner:

  • cyfeiriad

  • dyddiad geni

  • rhif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un ganddo

Anfonwch eich llythyr i: 

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST