Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Talu’r tâl treth drwy TWE
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i dalu’r tâl treth drwy eich taliadau Treth Incwm arferol (TWE).
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich taliadau yn cael eu sefydlu ac ni fydd angen i chi wneud dim arall oni bai bod eich amgylchiadau yn newid. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon manylion eich cod treth newydd atoch chi a’ch cyflogwr. Os ydych yn cael incwm o bensiwn, bydd CThEF yn anfon eich cod treth at eich darparwr pensiwn.
Pryd y gallwch dalu drwy TWE
Gallwch ond talu’r tâl drwy TWE os yw’r canlynol yn wir:
-
nid oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth am reswm arall, er enghraifft os ydych yn dod yn hunangyflogedig
-
mae hi’n 31 Ionawr, neu’n gynharach, yn ystod y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth y mae angen i chi dalu ar ei chyfer
-
rydych yn talu’r tâl ar gyfer y flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen
Enghraifft
Mae angen i chi dalu’r tâl treth ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dechrau 6 Ebrill 2025. Mae hi’n 31 Ionawr 2027, neu’n gynharach, gallwch dalu drwy TWE.
Os na allwch dalu drwy TWE, yna mae’n rhaid i chi dalu drwy Hunanasesiad yn lle hynny.
Newid o dalu drwy Hunanasesiad i dalu drwy TWE
Os ydych wedi llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ddiweddar er mwyn talu’r tâl treth yn unig, ac am ddim rheswm arall, gallwch ddewis talu’r tâl drwy TWE yn lle hynny. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â CThEF dros y ffôn er mwyn gwneud y canlynol:
- ymadael â Hunanasesiad
- cofrestru i dalu’r tâl drwy TWE
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich incwm net wedi’i addasu
- rhif Yswiriant Gwladol unrhyw bartner sydd wedi cael Budd-dal Plant yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf
- dyddiadau’r perthnasoedd gydag unrhyw bartneriaid sy’n cael Budd-dal Plant
Os oes angen i chi barhau gyda Hunanasesiad am resymau eraill, yna mae’n rhaid i chi dalu’r tâl drwy Hunanasesiad.
Cyn i chi ddechrau
Ni allwch gadw eich cynnydd yn y gwasanaeth hwn. Dylech gasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau.
Byddwch angen y canlynol:
- eich incwm net wedi’i addasu
- incwm net wedi’i addasu eich partner, os oes un gennych
- rhif Yswiriant Gwladol unrhyw bartner sydd wedi cael Budd-dal Plant yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf
- dyddiadau’r perthnasoedd gydag unrhyw bartneriaid sy’n cael Budd-dal Plant
Mewngofnodwch i dalu’r tâl treth drwy TWE
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Os na allwch gael gwybodaeth gan eich partner neu gyn-bartner
Gallwch ysgrifennu at CThEF i ofyn p’un a yw’ch partner neu gyn-bartner yn cael Budd-dal Plant, neu a yw ei incwm yn uwch na’ch incwm chi. Bydd CThEF yn rhoi ateb i chi – ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i chi, na rhif Yswiriant Gwladol eich partner.
Gallwch ond gofyn am yr wybodaeth hon os ydych chi a’ch partner naill ai’n byw gyda’ch gilydd neu wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych am gael gwybodaeth ar ei chyfer.
Ysgrifennu at CThEF
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pa flwyddyn dreth yr ydych yn gofyn yn ei chylch, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol :
-
eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol
-
eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un gennych
-
incwm net wedi’i addasu
-
enw eich partner neu gyn-bartner
Os gallwch, rhowch yr wybodaeth ganlynol am eich partner neu gyn-bartner:
-
cyfeiriad
-
dyddiad geni
-
rhif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw
-
Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un ganddo
Anfonwch eich llythyr i:
Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Cyllid a Thollau EF
BX9 1ST