Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Sgipio cynnwys

Penodedigion

Gallwch wneud cais am yr hawl i ddelio â Budd-dal Plant rhywun sy’n methu â rheoli ei faterion ei hun, er enghraifft, os yw rhywun yn analluog yn feddyliol neu’n ddifrifol anabl.

Gelwir hyn yn dod yn ‘benodai’.

Gallwch wneud cais fel unigolyn, neu fel sefydliad gwirfoddol.

Os ydych yn cael eich talu i ddelio â Budd-dal Plant rhywun arall, cewch eich adnabod fel bod yn ‘asiant sy’n cael ei dalu’.

Nid penodai ydych os mai dim ond cynorthwyo rhywun lenwi ei ffurflen hawlio ydych chi.

Sut i fod yn benodai

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant er mwyn hawlio. Byddant yn trafod gyda chi os mai bod yn benodai yw’r dewis gorau i chi, a rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.

Eich cyfrifoldebau

Bydd rhai o’ch dyletswyddau fel penodai yn cynnwys:

Bydd eich Budd-dal Plant yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc.

Sut i fod yn asiant sy’n cael ei dalu

Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu delio â Budd-dal Plant ar ei ran.

Stopio neu newid penodai neu asiant sy’n cael ei dalu

Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant cyn pen un mis o’r dyddiad yr ydych am stopio neu newid y penodai.