Yr hyn y byddwch yn ei gael

Mae dwy gyfradd Budd-dal Plant.

Ar gyfer pwy mae’r lwfans Cyfradd (wythnosol)
Y plentyn hynaf neu unig blentyn £25.60
Plant ychwanegol £16.95 y plentyn

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd gormod o Fudd-dal Plant yn cael ei dalu i chi neu os na fydd digon ohono’n cael ei dalu i chi.

Bydd unrhyw daliadau Budd-dal Plant a gewch yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau. Os yw’r cap yn effeithio arnoch chi, byddwch yn dal i gael swm llawn eich taliadau Budd-dal Plant, ond efallai y caiff eich budd-daliadau eraill eu gostwng.

Sut a phryd y caiff Budd-dal Plant ei dalu

Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei dalu bob 4 wythnos ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth.

Gall yr arian gael ei dalu yn wythnosol i chi os ydych yn rhiant sengl neu’n cael rhai budd-daliadau eraill, megis Credyd Cynhwysol.

Gallwch drefnu bod yr arian yn cael ei dalu i mewn i unrhyw gyfrif, ar wahân i’r canlynol:

  • cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post
  • cyfrif CashBuilder Nationwide (cod didoli 07 00 30) yn enw rhywun arall

Gellir ond talu’r arian i mewn i un cyfrif.

Budd-dal Plant a diogelu’ch Pensiwn y Wladwriaeth

Byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig os hawliwch Fudd-dal Plant a bod eich plentyn o dan 12 oed.

Mae’r credydau hyn yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth fel nad oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn gweithio

  • nid ydych yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os nad oes angen y credydau Yswiriant Gwladol arnoch, mae’n bosibl y bydd eich teulu’n gymwys i gael y cymorth yn lle hynny. Naill ai:

Os bydd teuluoedd yn gwahanu

Os bydd teulu’n gwahanu, cewch £25.60 yr wythnos ar gyfer y plentyn hynaf.

Os oes gennych ddau o blant a bod un yn aros gyda chi a’r llall yn aros gyda’ch cyn-bartner, bydd y ddau ohonoch yn cael £25.60 yr wythnos ar gyfer pob plentyn.

Os yw’r ddau ohonoch yn hawlio ar gyfer yr un plentyn, dim ond un ohonoch fydd yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer.

Os oes gennych blant eraill sydd â hawl i Fudd-dal Plant, cewch £16.95 ar gyfer pob plentyn.

Os bydd teuluoedd yn dod at ei gilydd

Os bydd dau deulu yn dod at ei gilydd, bydd y plentyn hynaf yn y teulu newydd yn gymwys ar gyfer y gyfradd o £25.60, a bydd unrhyw blant eraill sy’n gymwys yn cael y gyfradd o £16.95.

Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000

Os yw’ch ‘incwm net addasedig’ chi neu’ch partner dros £60,000 y flwyddyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Eich incwm net addasedig yw cyfanswm eich incwm trethadwy cyn unrhyw lwfansau personol a llai pethau megis Rhodd Cymorth. Mae cyfanswm eich incwm trethadwy yn cynnwys llog o gynilion a difidendau.

Os oes angen i chi dalu’r tâl, rydych yn dal i allu cael y manteision eraill o Fudd-dal Plant megis credydau Yswiriant Gwladol. Ni fydd y tâl yn fwy na’r swm a gewch o’r taliadau Budd-dal Plant.

Cyfrifwch a yw’ch incwm net addasedig dros £60,000 gan ddefnyddio’r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn Saesneg). Os ydyw, bydd y gyfrifiannell hefyd yn dweud wrthych faint o dâl y bydd angen i chi ei dalu.

Os oes gennych chi a’ch partner incwm unigol dros £60,000, yna bydd y sawl sydd â’r incwm net addasedig uchaf yn gyfrifol am dalu’r tâl.

Os oes gennych chi neu’ch partner incwm unigol o £80,000 neu fwy, codir yr un swm ag y byddwch yn ei wneud drwy daliadau Budd-dal Plant. Yn y pen draw, ni fydd gennych unrhyw arian ychwanegol o Fudd-dal Plant.

Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn dreth i dalu’r tâl.

Gallwch wneud hawliad ac optio allan o gael taliadau os nad ydych yn dymuno talu’r tâl. Byddwch yn dal i allu cael y manteision eraill a ddarperir gan Fudd-dal Plant, megis credydau Yswiriant Gwladol.