Canllawiau

Gwnewch gais am Gredydau Gofal Plant ar gyfer Oedolion Penodedig

Os ydych wedi darparu gofal i blentyn o dan 12 oed, defnyddiwch ffurflen CA9176 i wneud cais am gredydau Yswiriant Gwlad-ol Dosbarth 3 o 6 Ebrill 2011 ymlaen.

Cyflwynwyd y credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 hyn ar 6 Ebrill 2011. Gallwch eu hawlio o’r dyddiad hwnnw. Efallai y bydd gennych hawl i gael y credydau hyn os yw’r ddau beth can-lynol yn wir:

  • rydych yn aelod cymwys o’r teulu a fu’n gofalu am blentyn o dan 12 oed
  • nid oes angen i’w riant na’i brif ofalwr gael y credydau eu hunain

Sut mae’r credydau yn gweithio

Mae’r credydau hyn yn gweithio drwy drosglwyddo’r credyd Yswiriant Gwladol wythnosol y mae rhiant neu ofalwr yn ei gael, fel y person sy’n cael y Budd-dal Plant, i aelod cymwys o’r teulu. Gallant helpu i atal bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Byddwch yn cael credyd Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 am bob wythnos, neu ran o’r wythnos, y gwnaethoch ddarparu gofal ar gyfer y plentyn.

Dim ond un credyd sydd ar gael ar gyfer pob hawliad Budd-dal Plant, ni waeth faint o blant sydd ar yr hawliad ei hun.

Er enghraifft, pe bai nain a thaid yn darparu gofal ar gyfer dau blentyn eu merch, dim ond un credyd sydd ar gael i’w drosglwyddo. Mae’n rhaid i’r person sy’n cael y Budd-dal Plant benderfynu pwy ddylai gael y credyd.

Os yw’r nain a thaid yn darparu gofal ar gyfer plentyn eu merch a phlentyn eu mab, mae’n debygol y bydd yna dau berson sy’n cael Budd-dal Plant. Mae hyn yn golygu bod dau gredyd ar gael i’w trosglwyddo.

Os nad oes unrhyw neb wedi hawlio Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn, nid oes unrhyw gredyd Yswiriant Gwladol ynghlwm i’w drosglwyddo. Mae hyn yn golygu na ellir dyfarnu credydau.

Os ydych wedi darparu gofal ar gyfer plentyn o dan 12 oed yn ystod cyfnod COVID-19

O fis Mawrth 2020 ymlaen, mae’n bosibl bod COVID-19 wedi effeithio ar eich trefniadau gofalu arferol.

Os ydych wedi darparu gofal mewn ffordd wahanol, er enghraifft dros y ffôn neu drwy fideo, gallwch barhau i wneud cais am gredydau ar gyfer blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021.

Pwy all wneud cais

Gallwch ymgeisio cyhyd â bod y canlynol yn wir:

  • rydych yn aelod cymwys o’r teulu a oedd wedi darparu gofal ar gyfer plentyn o dan 12 oed
  • roeddech yn 16 oed neu’n hŷn, ond o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, pan oeddech yn darparu gofal ar gyfer y plentyn
  • rydych fel arfer yn byw yn y DU, ond nid Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw
  • mae rhiant neu brif ofalwr y plent-yn wedi hawlio Budd-dal Plant, ond nid oes angen y credydau arno ei hun
  • mae rhiant neu brif ofalwr y plent-yn yn cytuno i’ch cais

Mae’n rhaid i riant neu brif ofalwr y plen-tyn lofnodi’r ffurflen i gadarnhau eu bod yn cytuno bod y canlynol yn wir am y cyfnod a nodwyd:

  • gwnaethoch ddarparu gofal i’w blentyn
  • eich bod yn cael y credydau

Pwy sy’n cyfrif fel aelod cymwys o’r teulu

Cewch eich ystyried yn aelod cymwys o’r teulu os ydych yn un o’r canlynol:

  • mam neu dad sydd ddim yn byw gyda’r plentyn
  • taid/nain, hen daid/hen nain neu hen-hen daid/hen-hen nain
  • modryb neu ewythr
  • brawd neu chwaer

Gall brawd neu chwaer gynnwys y can-lynol:

  • hanner brawd neu hanner chwaer
  • llys-frawd neu lys-chwaer
  • brawd sydd wedi’i fabwysiadau neu chwaer sydd wedi’i mabwys-iadu

Cewch hefyd eich ystyried yn aelod cymwys o’r teulu os ydych yn un o’r canlynol:

  • priod, partner neu bartner sifil presennol neu flaenorol unrhyw un yn y rhestr
  • mab neu ferch i briod, partner neu bartner sifil presennol neu flaenorol unrhyw un yn y rhestr

Pwy na ddylai wneud cais

Ni ddylech wneud cais am gredydau os yw’r canlynol yn wir am yr un cyfnod:

  • mae gennych flwyddyn gym-hwysol o Yswiriant Gwladol yn barod — fel arfer oherwydd eich bod yn gweithio neu’n cael cred-ydau Yswiriant Gwladol eraill
  • rydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer unrhyw blentyn ac yn cael credydau yn awtomatig yn barod

Os mai chi yw’r priod, y partner neu’r partner sifil sy’n byw gyda’r person sy’n cael y Budd-dal Plant a’ch bod eisiau trosglwyddo’r credydau i chi’ch hun, mae angen i chi lenwi ffurflen CF411A.

Pryd i wneud cais

Mae’n rhaid i chi aros tan 31 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth rydych am wneud cais amdani. Mae hyn oherwydd bod angen i ni wirio bod gan y rhiant neu’r prif ofalwr flwyddyn gymhwysol at ddibenion Yswiriant Gwladol yn barod.

Cyn i chi wneud cais

Dylai rhiant neu brif ofalwr y plentyn wirio ei gofnod Yswiriant Gwladol ar-lein, er mwyn sicrhau bod ganddo gredydau i’w trosglwyddo.

Er mwyn llenwi ffurflen gais, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion personol fel yr aelod teulu cymwys a oedd yn darparu gofal i’r plentyn
  • manylion y plentyn a’r cyfnodau yr oeddech yn gofalu amdanynt
  • manylion personol rhiant neu brif ofalwr y plentyn — y person sy’n cael Budd-dal Plant

Mae’n rhaid i chi a’r person sy’n cael y Budd-dal Plant lofnodi datganiad ar y ffurflen gais.

Sut i wneud cais

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gi-lydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch ffurflen CA9176.

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiri-ad post a ddangosir ar y ffurflen.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio tech-noleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hy-gyrch arnoch, anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhoi gwybod i ni ba fformat sydd ei an-gen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffur-flenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Gwirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais am gredydau Gofal Plant ar gyfer Oedolion Penodedig, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Awst 2024 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. The 'Get more information' section has been replaced with a new section so you can check when you can expect a reply from HMRC after you've applied.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon