Talu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau
Sut i dalu trethi, cosbau a setliadau ymholiadau os na allwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau mewn canllawiau ‘talu CThEM’ eraill, neu os yw’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag X.
Trosolwg
Defnyddiwch y canllaw hwn dim ond os ydych am dalu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau i CThEM ac:
- ni allwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i wneud eich taliad mewn canllawiau ‘talu CThEM’ eraill (yn agor tudalen Saesneg)
- mae’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag X
Mae arweiniad gwahanol ar gael os oes angen i chi dalu cosb Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg).
Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol
Os ydych wedi cofrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM, gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar-lein er mwyn i ni gasglu’ch taliad.
Dylech sefydlu’r Debyd Uniongyrchol o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y dyddiad rydych am i’ch taliad gael ei gasglu.
Dim ond os ydych wedi cofrestru ar gyfer un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn:
- Hunanasesiad ar-lein
- TWE i gyflogwyr
- Treth Gorfforaeth ar-lein
- CIS ar-lein
- Toll Peiriannau Hapchwarae ar-lein
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Talu ar-lein â chyfleuster bancio dros y ffôn, CHAPS neu Bacs
Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr) i gyfrif CThEM gan ddefnyddio’r manylion hyn os na allwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i wneud eich taliad mewn canllawiau ‘talu CThEM’ eraill (yn agor tudalen Saesneg):
Cod didoli | Rhif y cyfrif | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
08 32 10 | 12001020 | HMRC Shipley |
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch sy’n 14 neu’n 15 cymeriad o hyd. Mae’n dechrau gydag X ac mae ar eich slip talu.
Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Taliadau:
- Fel arfer, mae Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc
- Fel arfer, mae CHAPS yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc
- Fel arfer, mae Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith
Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd ar-lein
Gallwch dalu ar-lein.
Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol.
Nid oes ffi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch sy’n 14 neu’n 15 cymeriad o hyd. Mae’n dechrau gydag X ac mae ar eich slip talu.
Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Os na allwch wneud taliad llawn â cherdyn credyd neu gerdyn debyd, bydd yn rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull gwahanol.
Bydd CThEM yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd cyfrif CThEM (gan gynnwys gwyliau banc a phenwythnosau).
Gwneud taliad â cherdyn — cael eich manylion yn gywir
Yn ddiweddar, rydym wedi gwneud rhai newidiadau fel rhan o ymrwymiad CThEM i sicrhau diogelwch taliadau ar-lein. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion yr ydych yn eu nodi’n gywir ac yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn, er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio fod yr un peth â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Slipiau talu
Fel arfer, cewch ‘Hysbysiad i Dalu’ oddi wrth CThEM gyda slip talu ynghlwm wrtho er mwyn gwneud taliad, ond efallai y bydd adegau pan na fydd gennych un. Er enghraifft, os ydych wedi cytuno ar daliad gyda CThEM dros y ffôn.
Mae’n rhaid i chi fod â slip talu er mwyn talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu.
Cyfeirnod y taliad
Os nad oes gennych slip talu, dylech ddal i fod â chyfeirnod talu oddi wrth CThEM sy’n 14 neu’n 15 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag X. Bydd angen hwn arnoch wrth wneud taliad.
Peidiwch â defnyddio’r canllaw hwn os nad yw’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag X, gwiriwch ganllawiau ‘talu CThEM’ eraill (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod sut i dalu.
Cysylltwch â CThEM os ydych yn ansicr am eich cyfeirnod talu.
Faint o amser i’w ganiatáu er mwyn i daliadau gyrraedd CThEM
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEM erbyn y dyddiad cau a ddangosir ar eich ‘Hysbysiad i Dalu’ neu mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu er mwyn i’ch taliad gyrraedd CThEM yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Dull talu | Amser i’w ganiatáu |
---|---|
Debyd Uniongyrchol | 5 niwrnod gwaith |
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein | Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
Bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) | Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
Bacs | 3 diwrnod gwaith |
CHAPS | Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
Ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd | Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu | Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
Siec drwy’r post | 3 diwrnod gwaith |
Talu o dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol er mwyn talu o gyfrif tramor:
Rhif y cyfrif (IBAN) | Cod Adnabod y Banc (BIC) | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
GB03 BARC 2011 4783 9776 92 | BARCGB22 | HMRC Shipley |
Defnyddiwch y cyfeiriad canlynol os oes angen i chi roi cyfeiriad bancio CThEM i’ch banc:
Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’. Dylech ysgrifennu’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 neu’n 15 o gymeriadau, ar gefn y siec. Bydd y cyfeirnod talu i’w weld ar y slip talu sydd ynghlwm wrth eich ‘Hysbysiad i Dalu’.
Efallai y bydd oedi gyda’ch taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEM yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd ein cyfrif.
Talu â siec drwy’r post
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 14 neu’n 15 o gymeriadau, ar gefn y siec. Bydd y cyfeirnod talu i’w weld ar y slip talu sydd ynghlwm wrth eich ‘Hysbysiad i Dalu’.
Os nad oes gennych slip talu, rhowch y manylion canlynol:
- eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- eich cyfeirnod talu sy’n dechrau gydag X
- y cyfnod rydych yn talu amdano
- y swm yr ydych yn ei dalu
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- plygu’r slip talu na’r siec
- glynu dogfennau wrth ei gilydd
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEM ac anfonwch eich taliad i:
HMRC
Direct
BX5 5BD
Gallwch gynnwys cais am dderbynneb gyda’ch taliad.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 January 2023 + show all updates
-
A link to the payment method for Trust Registration Service penalty charges has been added.
-
Guidance about approving a payment through your online bank account has been added.
-
Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from 1 November 2020 has been added.
-
Welsh translation had been added.
-
References to National Minimum wage penalties removed.
-
Information about National Minimum Wage penalties or enquiry settlements has been added.
-
Guide updated to show payments can't be made with a personal credit card.
-
Payments can no longer be made at a Post Office.
-
Section ‘Pay online with a debit or credit card’ has been updated with information about payments by personal credit card from 13 January 2018.
-
Information about payments at a Post Office from December 2017 has been added to the guide.
-
Postal address for cheque payments has been updated.
-
Credit card fees have changed.
-
Notification that from 1 January 2016 changes will be introduced to limit the number of credit and debit card payments that can be made to any single tax regime within a given period.
-
The online debit or credit card non-refundable fee has been increased to 1.5%.
-
HMRC have launched a new payment service - you may be directed to WorldPay if you pay online by debit or credit card. The new service uses a different service provider to BillPay.
-
You can pay tax, penalties and enquiry settlements (which are not covered in other HM Revenue and Customs (HMRC) guidance) to HMRC at the Post Office (subject to a maximum of £10,000).
-
First published.