Canllawiau

Talu Treth Dir y Tollau Stamp

Sut i dalu Treth Dir y Tollau Stamp, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Nid ydych yn talu Treth Dir y Tollau Stamp os ydych yn prynu eiddo:

Caiff Treth Dir y Tollau Stamp ei thalu pan gaiff eiddo ei brynu, neu ei drosglwyddo, yn y DU.

Ni ddylid drysu rhwng talu Treth Dir y Tollau Stamp â thalu:

Pryd i dalu

Mae taliadau’n ddyledus cyn pen 14 diwrnod i ddyddiad ‘dod i rym’ y trafodyn. Fel arfer, dyddiad cwblhau’r trafodyn yw hyn, ond gall hefyd fod yn un o’r dyddiadau canlynol:

  • y dyddiad y mae’r prynwr â’r hawl i gymryd meddiant o’r eiddo
  • y dyddiad y mae’r taliad rhent cyntaf yn ddyledus
  • y dyddiad cwblhau sylweddol — pan wneir o leiaf 90% o’r taliad (neu gyfnewid arall)

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen cyfeirnod unigryw eich trafodyn arnoch, sy’n 11 o gymeriadau (er enghraifft,123456789MC). Bydd y cyfeirnod hwn bob amser yn cynnwys 9 rhif a 2 gymeriad.

Mae hwn i’w weld ar eich Ffurflen Dreth bapur neu ar eich tystysgrif SDLT5 electronig.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
  • byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad

Talu ar-lein

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Fel arall, gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys ar wyliau banc a phenwythnosau).

Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwch yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu nawr

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs, dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Dylech wneud taliadau ar wahân ar gyfer pob cyfeirnod trafodyn unigryw. Os ydych am wneud un taliad ar gyfer sawl trafodyn, anfonwch ffurflen ymholiadau CHAPS ar-lein.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10
  • rhif y cyfrif — 12001020
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP).

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Talu â siec

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Os ydych yn anfon siec ar gyfer mwy nag un cyfeirnod trafodyn unigol, dylech anfon rhestr o’r holl gyfeirnodau yn erbyn pob swm.

Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.

Os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r slip talu (ar gefn y Ffurflen Dreth) ac anfon hyn gyda’ch siec.

Anfonwch eich Ffurflen Dreth a’ch siec i:

BT Stamp Duty Land Tax
HM Revenue and Customs
BX9 1LT

Os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth electronig

Anfonwch eich siec (gan gynnwys slip talu, neu gan nodi’r cyfeirnod trafodyn unigryw) i:

HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD

Cyhoeddwyd ar 30 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 January 2024 + show all updates
  1. The link to send an online CHAPS enquiry form to make a single payment to cover multiple transactions has been updated.

  2. Guidance updated to say there is a non-refundable fee if you use a corporate credit or debit card to pay online and if you pay by bank transfer you should check your banks processing times before you pay.

  3. Updated section “Bank details for online, Bacs and CHAPS” with a link to the online CHAPS enquiry form for enquiries about making single payments to cover many transactions. Also added HMRC’s banking address.

  4. If you use an incorrect unique transaction reference or if you add anything to it there will be a delay in the payment being allocated correctly and you will receive a payment reminder.

  5. Information about approving a payment through your online bank account has been added.

  6. Cheque payment details updated.

  7. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards has been updated.

  8. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from 1 November 2020 has been added.

  9. Welsh translation has been added.

  10. The SDLT payments and returns time limit has been changed from 30 days to 14 days of the 'effective' transaction date.

  11. Guidance on paying by cheque through the post has been updated.

  12. Guide updated to show payments can't be made with a personal credit card.

  13. Payments can no longer be made at the Post Office.

  14. From 1 April 2018 SDLT will no longer apply in Wales. You'll pay Land Transaction Tax which is dealt with by the Welsh Revenue Authority.

  15. If you file a paper return and wish to pay by cheque the return address for payment has been amended.

  16. Guidance updated to show it won't be possible to pay at the Post Office from 15 December 2017.

  17. Section ‘Ways to pay’ has been updated with information about payments by personal credit card from 13 January 2018.

  18. Information about payments at a Post Office from December 2017 has been added to the guide.

  19. Section about paying by cheque through the post has been updated.

  20. Credit card fees have changed.

  21. Overseas payment details changed.

  22. The pay by cheque through the post address has changed to HM Revenue and Customs, Direct, BX5 5BD.

  23. Notification that from 1 January 2016 changes will be introduced to limit the number of credit and debit card payments that can be made to any single tax regime within a given period.

  24. The online debit or credit card non-refundable fee has been increased to 1.5%.

  25. HMRC have launched a new payment service - you may be directed to WorldPay if you pay online by debit or credit card. The new service uses a different service provider to BillPay.

  26. Stamp Duty Land Tax can be paid to HM Revenue and Customs at the Post Office (subject to a maximum of £10,000).

  27. First published.