Canllawiau

Treth Dir y Tollau Stamp: Trafodiadau yng Nghymru

Gwybodaeth am yr hyn i'w wneud o ran Treth Trafodiadau Tir wrth i chi brynu tir ac eiddo yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Trafodiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018

O 1 Ebrill 2018 ymlaen, byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar unrhyw drafodiadau tir yng Nghymru. Mae’r TTT yn cael ei gweithredu gan Awdurdod Cyllid Cymru. Gallwch wirio a yw cod post ar gyfer tir neu eiddo wedi’i leoli yng Nghymru gan ddefnyddio’r teclyn gwirio codau post sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu Treth Dir y Tollau Stamp (yn Saesneg) (SDLT) nac anfon Ffurflen Dreth ar gyfer y trafodiadau hyn at CThEF chwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses o symud o SDLT i TTT, darllenwch y canlynol:

Achosion arbennig

Bydd yn dal yn rhaid i chi dalu SDLT a rhoi gwybod i CThEF os yw’ch trafodyn yn cyd-fynd ag un o’r achosion canlynol.

Achosion hysbysu ôl-weithredol

Mae achosion rhoi gwybod yn ôl-weithredol yn codi pan fo’r trafodyn wedi digwydd cyn 1 Ebrill 2018 ond ni fu angen i’w hysbysu tan ar ôl 1 Ebrill 2018. Mae angen i chi roi gwybod i CThEF pan fydd eich trafodyn yn dod yn hysbysadwy.

Achosion trosiannol

Mae achosion trosiannol yn drafodiadau tir lle ymrwymwyd i gontract cyn 17 Rhagfyr 2014, ond ni chynhaliwyd y cam cwblhau tan ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018.

Achosion traws-ffiniol

Mae achosion traws-ffiniol yn drafodiadau ar gyfer darn o dir sydd ar ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Byddwch ond yn talu SDLT ar y rhan o’r trafodyn sydd yn Lloegr. Mae’n bosibl y bydd TTT yn daladwy i Awdurdod Cyllid Cymru am y rhan o’r trafodyn sydd yng Nghymru.

Achosion gyda diddordebau lluosog

Mae achosion gyda diddordebau lluosog yn drafodyn sengl sy’n ymwneud â mwy nag un eiddo yn Lloegr, Gogledd Iwerddon (neu’r ddau), a Chymru. Dim ond eiddo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n agored i SDLT.

Mae unrhyw eiddo yn yr Alban sy’n rhan o’r trafodyn yn agored i Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau.

Mae rhagor o wybodaeth am Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar gael ar wefan Cyllid yr Alban (yn Saesneg).

Trafodiadau cyn 1 Ebrill 2018

Byddwch yn talu Treth Dir y Tollau Stamp ar yr holl trafodiadau a wnaed sydd â dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2018.

Anfon Ffurflen Dreth i CThEF

Gallwch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur neu ar-lein (yn Saesneg) ar gyfer SDLT i CThEF.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 December 2023 + show all updates
  1. Information about where you can find out if land or property is located in Wales has been added.

  2. First published.