Gwirio a yw e-bost rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys
Gwiriwch restr o negeseuon e-bost diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw’r e-bost a gawsoch yn sgam.
Os nad yw’ch e-bost wedi’i restru yma, gwiriwch yr ohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.
Crynodeb Treth Blynyddol
Mae tîm Hunanasesiad CThEF yn anfon e-byst hysbysu at rai cwsmeriaid i roi gwybod iddynt fod eu Crynodeb Treth Blynyddol ar gael i fwrw golwg drosto. Teitl yr e-byst yw ‘Mae’ch Crynodeb Treth Blynyddol yn barod’ neu ‘Your Annual Tax Summary is ready’.
Mae’r e-byst hefyd yn esbonio’r hyn sydd yn y crynodeb blynyddol ac ni fyddant byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.
Rhoi gwybod fel busnes o dan Reoliadau IFRS 17 — Gwybodaeth am Ffurflen Dreth y Cwmni
O 28 Hydref 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2024, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost.
Mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost gan CThEF ynghylch yr effeithiau treth a godir o ganlyniad i’r safon cyfrifyddu newydd ar gyfer contractau yswiriant — IFRS 17.
Bydd yr e-bost yn:
- amlinellu pwyntiau allweddol y Rheoliadau IFRS 17 newydd
- rhoi gwybodaeth bwysig arall
Bydd yr e-bost hefyd yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg i helpu CThEF i ddeall effeithiolrwydd yr ohebiaeth ynghylch IFRS 17. Ni fydd yr arolwg yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol.
Busnesau sy’n gwerthu nwyddau drwy farchnadoedd ar-lein yn y DU
Mae CThEF yn cysylltu â busnesau sy’n gwerthu nwyddau i gwsmeriaid yn y DU drwy farchnadoedd ar-lein. Mae’r e-byst yn cyfeirio at ymrwymiadau o ran TAW yn y DU. Bydd yr e-bost cyntaf yn egluro pam y mae CThEF yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi gysylltu â CThEF.
Y diweddaraf ynghylch hawlio Budd-dal Plant
O 8 Gorffennaf 2024 ymlaen, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost.
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi os ydych wedi gwneud hawliad am Fudd-dal Plant i gadarnhau bod eich hawliad wedi dod i law a’i fod yn symud yn ei flaen. Bydd CThEF yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi’i ddarparu. Teitl yr e-byst yw ‘Diolch — rydym wedi cael eich hawliad am Fudd-dal Plant’.
Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.
Os ydych eisoes wedi cysylltu â CThEF ynghylch Budd-dal Plant, gallwch wirio statws eich hawliad.
Cylchlythyr ar gyfer cyfryngwyr tollau
O fis Medi 2021 ymlaen, bydd CThEF yn anfon cylchlythyr bob chwe wythnos drwy e-bost at y sector cyfryngwyr tollau – er enghraifft, trefnwyr anfon nwyddau, broceriaid tollau, a chwmnïau cludo parseli’n gyflym. Bydd yr e-byst yn rhoi’r newyddion diweddaraf sy’n effeithio ar y sector cyfryngwyr tollau.
Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.
Bwletinau’r Cyflogwr
Mae CThEF yn anfon bwletin gwybodaeth sawl gwaith y flwyddyn at gyflogwyr sydd wedi’u cofrestru i’w gael. Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.
Bydd e-byst a anfonir gan CThEF:
-
efallai’n cynnwys y teitl ‘Gwybodaeth bwysig i gyflogwyr’ neu ‘Important information for employers’
-
yn cynnwys cysylltiadau i dudalennau CThEF ar wefan GOV.UK, gan gynnwys cyngor ar ddiogelwch ar-lein
Help a chymorth
Mae CThEF yn anfon negeseuon e-bost at gwsmeriaid i gynnig help a chymorth. Bydd yr e-byst weithiau’n cynnwys cysylltiadau i gynhyrchion digidol ar-lein, fel gweminarau, fideos YouTube neu ganllawiau ar-lein CThEF.
Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.
Cymorth i Gynilo — talu i mewn i’ch cyfrif
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn e-bostio rhai cwsmeriaid sydd wedi agor cyfrifon Cymorth i Gynilo. Bydd yr e-byst yn atgoffa cwsmeriaid sydd heb dalu unrhyw arian i’w cyfrif o fanteision defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol.
Helpu i wella gwefan GOV.UK
Bydd CThEF yn e-bostio cwsmeriaid sy’n cofrestru i helpu i wella GOV.UK er mwyn gwella gwasanaethau’r llywodraeth.
Yn yr e-bost cyntaf, bydd cysylltiad y dylech ei ddilyn er mwyn cwblhau’r broses gofrestru.
Ar ôl i chi gofrestru, caiff ail e-bost ei anfon a fydd yn cynnwys cysylltiad i flog ymchwil. Efallai y byddwch wedyn yn cael e-byst eraill sy’n cynnwys cysylltiadau i arolygon byr ynghylch gwaith ymchwil.
Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol. Byddant hefyd yn cynnwys cysylltiad ar gyfer dad-danysgrifio rhag cael e-byst yn y dyfodol.
Ystadegau masnach data mewnforio ac allforio
Mae Uned Ystadegau Masnach CThEF yn anfon e-byst at gwsmeriaid busnes yn rheolaidd, ynghylch data ystadegol o ran mewnforio ac allforio, yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael ar wefan ystadegau masnach CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r rhain yn cynnwys:
-
hysbysiadau i fusnesau
-
diweddariadau i wasanaethau
-
nodynnau i’ch atgoffa am ddyddiadau cau
-
adolygiadau o ansawdd data
-
ceisiadau i gymryd rhan mewn arolygon
Mae’n bosibl y bydd gan yr e-byst hyn gysylltiadau i ragor o wybodaeth, cynnwys addysgol neu arolwg.
Ni fyddant yn gofyn am wybodaeth bersonol, na gwybodaeth sy’n ymwneud â thaliadau neu drethi.
Rhestr o asiantau tollau a chwmnïau cludo parseli’n gyflym neu weithredwyr cyflym ar GOV.UK
O fis Medi 2021 ymlaen, bydd CThEF yn anfon e-bost misol ynghylch cofrestr o asiantau tollau a chwmnïau cludo parseli’n gyflym sydd ar GOV.UK.
Mae’r gofrestr yn offeryn defnyddiol sy’n helpu i baru cyfryngwyr tollau â masnachwyr sy’n chwilio am gymorth gyda’u trefniadau mewnforio ac allforio. Mae’n ffordd o ddangos y gwasanaethau y mae’ch busnes yn eu cynnig.
Bydd yr e-bost yn gofyn i chi wneud un o’r canlynol:
-
diweddaru’ch manylion
-
rhoi’ch manylion i’w cynnwys yn y gofrestr
Bydd yr e-bost yn cynnwys cysylltiad at y gofrestr o gyfryngwyr tollau a chwmnïau cludo parseli’n gyflym sydd ar GOV.UK. Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
Bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol.
Bydd CThEF yn cadarnhau eich bod yn gallu cyflwyno Ffurflenni TAW cyn pen 72 awr gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych. Ni fydd yr e-bost yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth ariannol.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
O 1 Hydref 2022 ymlaen, bydd CThEF yn anfon e-byst i gynnig help a chymorth gyda’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Gall yr e-bost gynnwys cysylltiadau i’r canlynol:
-
arweiniad ar-lein
-
ffurflenni digidol
-
gweminarau
Gall yr e-bost hefyd ofyn am eich barn ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os bydd yn gwneud hynny, bydd yn cynnwys y canlynol:
- cysylltiad i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein
- cyfeiriad at yr arweiniad hwn fel y gallwch wirio bod yr e-bost yn ddilys
Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol heb fod CThEF yn ysgrifennu atoch yn gyntaf.
Arolwg y Bwrdd Cynghori Cydymffurfiad Un-i-Lawer (OCAB)
O 14 Hydref 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Hydref 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost.
Mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost gan CThEF os ydych yn aelod o’r Bwrdd Cynghori Cydymffurfiad Un-i-Lawer (OCAB) yn gofyn i chi gymryd rhan mewn arolwg.
Teitl yr e-bost fydd ‘Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwil’ a byddwch ond yn cael yr e-bost os ydych:
- yn aelod o’r bwrdd
- eisoes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn yr arolwg
Bydd yr e-bost yn cynnwys:
- cysylltiad i’r arolwg
- cyfeiriad at y dudalen hon i wirio bod yr e-bost yn ddilys
- rhif ffôn i gysylltu â Thîm Ymchwil CThEF os bydd gennych unrhyw bryderon
Ni fyddwn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol neu ariannol yn yr e-bost.
Hyrwyddo Cyfrif Treth Personol
Gofynnir i gwsmeriaid sy’n cysylltu â llinellau cymorth CThEF a ydynt yn dymuno cofrestru ar gyfer cyfrif treth personol. Cynigir rhagor o wybodaeth drwy e-bost i gwsmeriaid nad ydynt yn dymuno cofrestru dros y ffôn.
Os byddwch yn cytuno i roi cyfeiriad e-bost, bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost tra ydych ar y ffôn. Bydd yr e-bost yn rhoi gwybodaeth gefndirol ynghylch buddion cofrestru ar gyfer cyfrif treth personol, a sut i wneud hynny.
Ni fydd yr e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.
Astudiaethau ymchwil i wella gwasanaethau’r llywodraeth
Os ydych wedi cofrestru er mwyn helpu i wella gwasanaethau’r llywodraeth, bydd CThEF yn anfon gwahoddiad atoch drwy e-bost i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil.
Teitl yr e-bost fydd ‘Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwil’. Dim ond os ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer yr astudiaeth ymchwil y byddwch yn cael yr e-bost.
Mae’n bosibl y bydd yr e-bost yn cynnwys:
-
cysylltiad i gymryd rhan mewn astudiaeth ar-lein
-
manylion ynghylch digwyddiad wyneb yn wyneb
Bydd yr e-bost yn cynnwys:
-
cyfeiriad at y dudalen hon fel y gallwch wirio bod yr e-bost yn ddilys
-
rhif ffôn i gysylltu â Thîm Ymchwil CThEF os bydd gennych unrhyw bryderon
Gwasanaeth Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Mae gwasanaeth Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth CThEF yn anfon e-byst yn rheolaidd i roi gwybod i rieni y gallent fod yn colli allan ar gyfraniadau gan Lywodraeth y DU tuag at gostau gofal plant.
Nodynnau atgoffa ar gyfer dyledion TAW
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid pan fydd eu taliadau TAW yn hwyr. Bydd CThEF yn defnyddio’r cyfeiriadau e-bost a roddwyd gan gwsmeriaid eisoes, ac yn argymell bod cwsmeriaid yn talu ar-lein i osgoi camau pellach yn eu herbyn. Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.
Methu’r gwiriad dilysu ar gyfer gwasanaeth ad-daliadau TAW yr UE
Efallai y bydd cwsmeriaid sy’n defnyddio gwasanaeth ad-daliadau TAW yr UE yn cael e-bost os yw eu hawliad wedi methu’r gwiriad dilysu. Bydd yr e-bost yn egluro pam y mae’r hawliad wedi methu.
Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.
Cofrestru ar gyfer TAW
Bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF. Bydd CThEF yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost y mae cwsmeriaid wedi’i roi i’ch cynghori bod angen iddynt fewngofnodi i’w cyfrif treth ar-lein er mwyn gweld neges yn yr ardal negeseuon diogel.
Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.
Ceisiadau am gofrestriad TAW a gyflwynwyd gan asiantau
Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost pan fyddwch yn cyflwyno cais am gofrestriad TAW sy’n dangos eich bod yn asiant. Byddwn yn gwneud hyn gan fod angen i ni ddilysu’ch manylion.
Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau sut yr ydych yn gweithredu, yn ogystal â gofyn am fanylion ynghylch eich busnes, gan gynnwys:
- yn ym mha rôl yr ydych yn cyflwyno ceisiadau TAW
- manylion eich busnes, gan gynnwys enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich busnes
- eich cyfeirnodau a rhifau cofrestru CThEF
- eich cyfeirnod asiant
- manylion cofrestru ar gyfer Goruchwyliaeth Gwrth-wyngalchu Arian (AMLS), os yw’n berthnasol
Ni fydd eich ceisiadau yn cael eu hoedi os byddwch yn rhoi’r wybodaeth a gofynnir amdani erbyn y dyddiad cau.
Nodynnau atgoffa ar gyfer Ffurflenni TAW
Bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid i’w hatgoffa o’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’u Ffurflenni TAW os ydynt wedi’u cofrestru i gael e-byst atgoffa. Mae’r e-byst yn dwyn y teitl ‘Nodyn i’ch atgoffa i gyflwyno’ch Ffurflen TAW’ neu ‘Reminder to file your VAT return’, ac yn cynnwys cysylltiadau i dudalen sy’n rhoi rhagor o wybodaeth, yn ogystal â chysylltiad i’r dudalen fewngofnodi ar wefan GOV.UK.
Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.
E-byst eraill y dylech eu gwirio
Gallwch hefyd wirio’r e-byst a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 October 2024 + show all updates
-
Information about businesses reporting under IFRS 17 — Company Tax Return information research has been added.
-
Information about the One-to-Many Compliance Advisory Board (OCAB) survey has been added.
-
Information about VAT registration applications submitted by agents has been added.
-
Information about Making Tax Digital for Income Tax has been added.
-
The section 'HMRC webinars' has been updated to extend the period of contact by email from 2 April 2024 up to and including 2 August 2024, to 2 April 2024 up to and including 2 October 2024.
-
Information about Child Benefit claim updates has been added.
-
Information about research for HMRC webinars has been added.
-
Information about research for paying Self Assessment bills with HMRC has been added.
-
Information about a survey for One-to-Many Compliance Advisory Board members has been added.
-
Added translation
-
Added translation
-
Information about Tax Credits and Self Assessment requirements has been added.
-
Made it clear that HMRC may contact you about migrating your pension scheme onto the Managing pension schemes service.
-
Information about Managing Pension Schemes emails has been updated to show a new start date of 16 November 2023.
-
Information about migrating to the Managing pension schemes service has been added.
-
Information about research on Pillar 2 and HMRC communication with tax agents and sole traders' for Making Tax Digital have been added.
-
Information about emails telling you you may be eligible for Help to Save has been added. Information about Impact of Maxing Tax Digital for tax agents has been removed
-
Information about a survey to understand the experience and approaches to growth of sole traders, freelancers and microbusinesses has been added.
-
Information about migrating to the Managing Pension Schemes service has been added.
-
Economic Crime Supervision text messaging survey and impact of Making Tax Digital research added.
-
Information on pension schemes migration communication added.
-
We have added 'One-to-many Compliance Advisory Board (OCAB) survey' and 'Tax-Free Childcare account' research.
-
Information on research into the future of Gift Aid has been added.
-
Information about Tax-Free Childcare research and Pre-filing conversation feedback has been added.
-
Information on research with landlords about Making Tax Digital for VAT has been added.
-
Information on the personal tax affairs questionnaire has been added.
-
Information on the Economic Crime Supervision survey has been added.
-
Information about the new Income Record Viewer service for agents has been added.
-
Added information about the One to Many Compliance Advisory Board invitation to complete a survey.
-
Information on research to improve HMRC communications added.
-
Information about an estate agency business education and training survey has been added.
-
Information on support with the National Minimum Wage has been added.
-
Information on the Economic Crime Supervision survey has been added.
-
Information about import and export customs declaration research with businesses has been added.
-
Added information on emails inviting you to take part in a survey about online sales tax research.
-
Added information about the One-to-Many Compliance Advisory Board invitation to complete a survey.
-
Added translation
-
Information about emails asking businesses and agents to take part in research on webinars and other digital products and services has been added.
-
Information about future customs processes research has been added.
-
Added translation
-
Self-Employment Income Support Scheme (SEISS) – your SEISS claims and what you need to do section has been added.
-
'Intermediaries Newsletter' and 'Register of customs agents and fast parcel operators on GOV.UK' sections added.
-
Information about emails asking businesses to take part in an Economic crime supervision text messaging trial has been added.
-
Added 'One-to-Many Compliance Advisory Board (OCAB) invitation to complete a survey' section.
-
Information about emails HMRC is issuing to overseas customers about VAT registration and payment feedback has been added.
-
Added translation