Canllawiau

Cadarnhau manylion rhywun sy’n cynrychioli CThEF

Dilyswch fanylion swyddog o CThEF neu gasglwr CThEF os bydd yn cysylltu â chi yn bersonol.

Cadarnhau manylion swyddog CThEF

Bydd unrhyw un sy’n cynrychioli CThEF bob amser yn rhoi gwybod pwy ydyw ac yn egluro’r rheswm pam ei fod yn ymweld â chi.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch pwy yw’r swyddog CThEF, gallwch gysylltu â CThEF i wirio ei fanylion a chadarnhau ei fod yn cynrychioli CThEF.

Cyswllt wyneb yn wyneb

Bydd y swyddog yn rhoi gwybod pwy ydyw drwy ddangos ei gerdyn adnabod CThEF i chi, a bydd ei enw, llun a rhif cyfresol CThEF arno.

  1. Gwnewch nodyn o enw’r swyddog a’r rhif cyfresol ar y cerdyn.
  2. Bydd y swyddog yn rhoi rhif ffôn (03000 565656) i chi i’w ffonio.
  3. Pan fyddwch yn ffonio’r rhif, byddwch yn cael eich cysylltu ag ymgynghorydd CThEF. Rhowch yr enw a’r rhif cyfresol o’r cerdyn adnabod i’r ymgynghorydd, fel y gall gadarnhau bod y swyddog yn cynrychioli CThEF.

Mae’r canlynol yn wir am y rhif ffôn yr ydych yn cael gan swyddog CThEF:

  • mae ar gael 24 awr y dydd

  • dim ond ar gyfer gwirio manylion swyddogion CThEF y mae hyn

Ni ddylech ddefnyddio’r rhif ffôn hwn i gysylltu â CThEF ar gyfer ymholiadau cyffredinol.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol, gallwch gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg) mewn ffordd arall.

Gwybodaeth am gostau galwadau.

Cadarnhau manylion casglwr CThEF

Fel arfer bydd casglwr CThEF yn ymweld â chi rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os bydd casglwr yn ymweld â chi ar unrhyw adeg arall a’ch bod am gadarnhau ei fanylion, trefnwch apwyntiad ag ef i’w ddychwelyd rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd y casglwr yn dangos ei gerdyn adnabod CThEF i chi, a bydd ei enw, llun a rhif cyfresol CThEF arno.

  1. Gwnewch nodyn o’r enw a’r rhif cyfresol ar y cerdyn.

  2. Ffoniwch CThEF ar 0300 200 3862.

  3. Rhowch yr enw a’r rhif cyfresol ar y cerdyn i’r ymgynghorydd, fel y gall gadarnhau bod y person yn cynrychioli CThEF.

Gwybodaeth am gostau galwadau.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch wirio rhestr o gysylltiadau dilys CThEF i’ch helpu i benderfynu os yw’r cyswllt rydych wedi ei gael yn dod o CThEF, neu’n sgam gan dwyllwr.

Rhoi gwybod am e-byst, negeseuon testun, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a galwadau ffôn amheus gan CThEF

Cysylltwch â CThEF i roi gwybod am e-bost, cyfrif cyfryngau cymdeithasol, galwad ffôn neu neges destun amheus (yn agor tudalen Saesneg) sy’n sôn am CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Ionawr 2026 show all updates
  1. The telephone number to confirm an officer's identity has been updated. Information has been added on how to report suspicious HMRC emails, texts, social media accounts and phone calls.

  2. The process to confirm the identity of an HMRC officer and the telephone number to call has been updated.

  3. How to confirm the identity of an HMRC officer and the telephone number to call has been updated.

  4. The phone number to confirm a HMRC FIS officer’s identity if you’re visited Monday to Friday, from 8am to 6pm has been updated.

  5. Welsh translation added.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon