Gordaliadau a thandaliadau treth

Sgipio cynnwys

Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn casglu’r dreth sy’n ddyledus drwy newid eich cod treth. Bydd hyn yn cynyddu’r dreth a ddidynnir o’ch cyflog, salari neu bensiwn. Bydd hyn fel arfer yn digwydd mewn rhandaliadau cyfartal dros 12 mis o ddechrau’r flwyddyn dreth ganlynol.

Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig os:

  • ydych yn talu Treth Incwm drwy gyflogwr neu ddarparwr pensiwn

  • ydych yn ennill digon o incwm dros eich Lwfans Personol i dalu am y tandaliad

  • oes arnoch lai na £3,000

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch ynghylch sut y gallwch dalu os na all gasglu’r arian fel hyn.

Os hoffech, gallwch dalu’r hyn sydd arnoch (yn agor tudalen Saesneg) cyn dechrau’r flwyddyn dreth ganlynol.

Os ydych o’r farn bod eich cyfrifiad treth yn anghywir

Os ydych o’r farn bod y symiau a ddefnyddiwyd yn eich cyfrifiad yn anghywir, cysylltwch â CThEF.

Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am y symiau sy’n anghywir yn eich barn chi, a beth ddylai’r rhain fod.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os bydd CThEF yn cytuno bod eich cyfrifiad treth yn anghywir, byddwn yn anfon cyfrifiad newydd atoch.

Os yw CThEF yn anghytuno, bydd yn cysylltu â chi i esbonio pam.