Codau treth
Sut i ddiweddaru’ch cod treth
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth yn awtomatig pan fydd eich incwm yn newid. Fel arfer, bydd yr wybodaeth hon yn dod oddi wrth eich cyflogwr.
Os oes gan CThEF yr wybodaeth anghywir am eich incwm, efallai y cewch god treth anghywir.
I gywiro’ch cod treth, gwnewch yn siŵr bod gan CThEF y manylion diweddaraf ynghylch eich incwm.
Gwiriwch beth mae angen i chi ei wneud os oes gennych god treth dros dro.
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ‘Gwirio’ch Treth Incwm’ i wneud y canlynol:
- diweddaru’ch manylion cyflogaeth
- rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch incwm, a allai fod wedi effeithio ar eich cod treth
Rhoi gwybod i CThEF am newid i incwm
Gallwch roi gwybod am newid i’ch incwm drwy wneud un o’r canlynol:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ‘Gwirio’ch Treth Incwm’
- cysylltu â CThEF
Os ydych yn cysylltu â CThEF ar ran rhywun arall
Os oes angen i chi roi gwybod i CThEF am newid i incwm rhywun arall (er enghraifft, oherwydd mai chi yw cyfrifydd y person), llenwch ffurflen ymholiadau ynghylch Hysbysiad Cod TWE.
Ar ôl i chi roi gwybod am eich newid
Bydd CThEF yn cysylltu â chi os bydd yn newid eich cod treth.
Bydd hefyd yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn fod eich cod treth wedi newid.
Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos:
- eich cod treth newydd
- addasiadau i’ch cyflog os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth
Cael ad-daliad treth neu dalu’r dreth sydd arnoch
Os bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth a’ch bod wedi talu gormod o dreth neu heb dalu digon, bydd CThEF yn anfon un o’r canlynol atoch:
- llythyr cyfrifiad treth (a elwir yn ‘P800’)
- llythyr Asesiad Syml