Gwneud cais am ryddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd
Trosolwg
Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn defnyddio’ch arian eich hunan am bethau y mae’n rhaid i chi eu prynu ar gyfer eich swydd
- dim ond ar gyfer eich gwaith rydych yn defnyddio’r pethau hyn
Ni allwch hawlio rhyddhad treth os yw’ch cyflogwr yn rhoi un o’r canlynol i chi:
- yr holl arian yn ôl
- rhywbeth arall, er enghraifft mae’ch cyflogwr yn rhoi gliniadur i chi ond rydych eisiau math neu fodel gwahanol
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n rhaid i chi fod wedi talu treth yn ystod y flwyddyn rydych yn hawlio ar ei chyfer Ni all swm y rhyddhad treth y gallwch ei gael fod yn fwy na swm y dreth a dalwyd gennych yn y flwyddyn dreth honno.
Cewch ryddhad treth yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi’i wario a’r gyfradd yr ydych yn talu treth arni.
Enghraifft
Os ydych yn hawlio £60 ac yn talu treth ar gyfradd o 20% yn y flwyddyn honno, rydych yn gymwys i gael swm o £12 (20% o £60).
Os ydych yn hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn addasu’ch cod treth fel eich bod yn talu llai o dreth.
Os ydych yn hawlio ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol, bydd CThEF naill ai’n addasu’ch cod treth neu’n rhoi ad-daliad treth i chi.
Sut i hawlio
Mae sut yr ydych yn hawlio yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei hawlio. Cael gwybod a ydych yn gymwys i hawlio rhyddhad treth:
- os ydych yn gweithio gartref
- ar gyfer gwisgoedd unffurf, dillad ac offer ar gyfer gwaith
- ar gyfer cerbydau rydych yn eu defnyddio ar gyfer gwaith
- ar ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol
- ar dreuliau teithio ac aros dros nos
- ar gyfer prynu offer arall
Os ydych yn gymwys, byddwch fel arfer yn gallu mynd ar-lein i hawlio rhyddhad treth ar eich treuliau swydd.
Os na allwch hawlio ar-lein, mae ffyrdd eraill o wneud hawliad.
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.
Os ydych yn amcangyfrif eich treuliau swydd
Erbyn diwedd y flwyddyn dreth, os yw’r swm gwirioneddol a wariwyd gennych yn wahanol i’r swm amcangyfrifedig a wnaethoch ei hawlio, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF drwy un o’r dulliau canlynol:
- cyflwyno hawliad newydd ar-lein – mae ffyrdd gwahanol o hawlio ar-lein, a rheiny’n dibynnu ar yr hyn yr ydych yn hawlio rhyddhad treth ar ei gyfer
- llenwi ffurflen bost
- ffonio’r llinell gymorth