Canllawiau

Hawlio rhyddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd os na allwch hawlio ar-lein

Os ydych yn gymwys, gallwch hawlio rhyddhad Treth Incwm ar eich treuliau swydd drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen P87, neu dros y ffôn.

Dim ond drwy ddefnyddio’r ffurflen hon gan CThEF y byddwn yn derbyn hawliadau drwy’r post.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad treth drwy’r post os ydych yn hawlio naill ai:

  • ar ran rhywun arall
  • ar gyfer mwy na 5 swydd

Bydd angen i chi gynnwys yr holl dreuliau ar gyfer y flwyddyn dreth yr ydych am hawlio ar ei chyfer.

Pryd y gallwch hawlio

Gallwch wneud hawliad os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gwneud eich hawliad cyn pen 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei chyfer
  • mae cyfanswm y treuliau rydych yn eu hawlio ar gyfer pob blwyddyn dreth yn £2,500 neu lai — os yw’r swm yn fwy na £2,500 bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • mae’ch cais yn cael ei wneud ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol — mae hyn yn cynnwys cwsmeriaid sy’n cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad maes o law
  • rydych wedi talu treth yn ystod unrhyw un o’r blynyddoedd rydych yn hawlio ar eu cyfer

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar dreuliau swydd os yw’ch cyflogwr, neu unrhyw berson arall, wedi ad-dalu’ch holl dreuliau sy’n gysylltiedig â’ch gwaith.

Sut i lenwi’r ffurflen

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Gallwch lenwi’r ffurflen ar y sgrin ac yna’i hargraffu, neu gallwch ei hargraffu a’i llenwi.

  4. Anfonwch y ffurflen i’r cyfeiriad sydd wedi’i restru yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud nawr’ ar y ffurflen.

Rhyddhad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth (P87)

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Efallai na fydd yn gweithio os byddwch yn ceisio agor y ffurflen yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Darllenwch Nodiadau arweiniad ar gyfer ffurflen P87 (ODT, 28.5 KB) i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.

Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall

Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall, gan godi tâl am wneud hynny ac eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu i chi, dysgwch beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn cael ad-daliadau Treth Incwm neu TWE (Talu Wrth Ennill) ar ran eraill (yn agor tudalen Saesneg).

Hawlio dros y ffôn

Gallwch hawlio rhyddhad treth drwy ein ffonio (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych eisoes wedi hawlio’r un fath o draul yn ystod blwyddyn flaenorol
  • mae cyfanswm eich treuliau yn £2,500 neu lai

Ni allwch hawlio treuliau ar gyfer gweithio gartref dros y ffôn.

Cyfarwyddyd Comisiynwyr CThEF

Darllenwch yr Cyfarwyddyd Comisiynwyr CThEF (ODT, 19.8 KB) er mwyn:

  • dod o hyd i wybodaeth fanwl ar sut y gellir cyflwyno hawliadau rhyddhad treth ar dreuliau swydd i CThEF
  • cael cadarnhad bod rhaid defnyddio fersiwn CThEF o ffurflen P87 os ydych am hawlio rhyddhad treth ar dreuliau swydd drwy’r post
Cyhoeddwyd ar 5 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 March 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Guidance notes for form P87 have been updated.

  3. The HMRC Commissioners Directions has been updated.

  4. The tax relief for expenses of employment P87 form has been updated to include a new version to be used on or after 26 February 2024.

  5. Added information about how and when you can claim Income Tax relief on your job expenses if you cannot claim online or by post. You can contact HMRC by phone if you’ve already claimed the same expense type in a previous year and your total expenses are £2,500 or less. You cannot claim working from home expenses by phone.

  6. Guidance notes for form P87 have been updated.

  7. Information has been added about the criteria for claiming tax relief for expenses

  8. A new form will be made available from 26 February 2024. The new nomination section will need to be completed for a repayment to be made to a third party.

  9. Added translation