Gweithio gartref

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer costau ychwanegol yr aelwyd os ydych yn gweithio gartref am yr wythnos gyfan, neu am ran o’r wythnos.

Pwy all hawlio rhyddhad treth

Gallwch hawlio rhyddhad treth os oes rhaid i chi weithio gartref, er enghraifft oherwydd:

  • bod eich swydd yn gofyn i chi fyw ymhell o’ch swyddfa
  • nad oes gan eich cyflogwr swyddfa

Pwy na all hawlio rhyddhad treth

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os ydych yn dewis gweithio gartref. Mae hyn yn cynnwys os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich contract cyflogaeth yn caniatáu i chi weithio gartref ychydig neu’r holl amser
  • rydych yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19)
  • mae gan eich cyflogwr swyddfa, ond ni allwch fynd yno weithiau am ei fod yn llawn

Yr hyn y gallwch hawlio ar ei gyfer

Gallwch ond hawlio am bethau sy’n ymwneud â’ch gwaith, megis:

  • galwadau ffôn busnes
  • nwy a thrydan ar gyfer eich man gwaith

Ni allwch hawlio am bethau yr ydych yn eu defnyddio at ddibenion preifat a busnes, megis rhent neu gysylltiad band eang.

Faint y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • £6 yr wythnos o 6 Ebrill 2020 ymlaen (ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol, y gyfradd yw £4 yr wythnos) – ni fydd angen i chi gadw tystiolaeth o’ch costau ychwanegol
  • union swm y costau ychwanegol a godwyd arnoch uwchlaw’r swm wythnosol – bydd angen tystiolaeth arnoch fel derbynebau, biliau neu gontractau

Cewch ryddhad treth yn seiliedig ar y gyfradd yr ydych yn talu treth arni.

Enghraifft

Os ydych yn talu’r gyfradd dreth sylfaenol o 20% ac yn hawlio rhyddhad treth ar £6 yr wythnos, byddech yn cael £1.20 yr wythnos mewn rhyddhad treth (20% o £6).

Fel arfer, byddwch yn cael rhyddhad treth drwy newid i’ch cod treth.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio a allwch hawlio
  • gwneud hawliad, os ydych yn gymwys

Dechrau nawr