Gwneud cais am ryddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd
Prynu offer arall
Yn y rhan fwyaf o achosion gallwch hawlio rhyddhad treth ar gost lawn cyfarpar sylweddol, er enghraifft cyfrifiadur, y mae’n rhaid i chi ei brynu er mwyn gwneud eich gwaith. Mae hyn oherwydd ei fod yn gymwys ar gyfer math o lwfans cyfalaf o’r enw lwfans buddsoddi blynyddol.
Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer ceir, beiciau neu feiciau modur a ddefnyddir gennych ar gyfer gwaith, ond mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ar gyfer milltiroedd busnes a chostau tanwydd.
Rydych yn hawlio mewn ffordd wahanol ar gyfer eitemau bach a fydd yn para am lai na 2 flynedd, megis gwisgoedd unffurf ac offer.
Gallwch ond hawlio rhyddhad treth ar gyfer treuliau offer os yw’r canlynol yn wir:
- mae eu hangen arnoch i wneud eich swydd
- rydych yn defnyddio’r offer ar gyfer gwaith ac nid oes unrhyw ddefnydd preifat sylweddol – mae hyn yn cynnwys defnyddio’r offer yn unol â pholisi’ch sefydliad
Os yw’ch cyflogwr yn rhoi arian i chi am yr eitem
Dylech ostwng y swm yr ydych yn ei hawlio rhyddhad treth arno gan y swm o arian a roddir i chi gan eich cyflogwr.