Gwneud cais am ryddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwisgoedd unffurf, dillad ac offer ar gyfer gwaith

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer y costau canlynol:

  • atgyweirio mân offer sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, siswrn neu ddril trydanol)
  • glanhau neu atgyweirio dillad arbenigol, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, oferfôls neu esgidiau diogelwch)

Hawlio rhyddhad ar gyfer gwisg unffurf neu ddillad arbenigol

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer gwisg unffurf. Gwisg unffurf yw set o ddillad sy’n dangos fod gennych chi swydd benodol, er enghraifft nyrs, neu swyddog heddlu.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio am ddillad arbenigol sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith, hyd yn oed os nad ydynt yn dangos fod gennych swydd benodol, er enghraifft oferôls neu esgidiau diogelwch.

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer:

  • y gost gychwynnol o brynu dillad ar gyfer gwaith
  • glanhau neu atgyweirio dillad gwaith bob dydd, neu brynu rhai newydd (hyd yn oed os oes rhaid i chi wisgo dyluniad neu liw penodol)
  • y gost o olchi eich gwisg unffurf neu ddillad arbenigol eich hun os yw’ch cyflogwr yn darparu gwasanaeth golchi dillad, a’ch bod yn dewis peidio â’i ddefnyddio

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol. Os yw’ch swydd yn gofyn i chi ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol dylai’ch cyflogwr wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • rhoi Cyfarpar Diogelu Personol i chi yn rhad ac am ddim
  • gofyn i chi ei brynu ac ad-dalu’r costau i chi

Faint y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y swm gwirioneddol a wariwyd gennych – bydd angen i chi gadw derbynebau
  • swm penodedig a gytunwyd arno (‘traul gyfradd unffurf’ neu ‘didyniad cyfradd unffurf’)

Gwiriwch a oes gan eich swydd draul gyfradd unffurf (yn agor tudalen Saesneg) y cytunwyd arni.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Mae sut yr ydych yn gwneud hawliad yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei hawlio, sef y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y swm gwirioneddol a wariwyd gennych
  • swm penodedig a gytunwyd arno

Er mwyn hawlio’r swm gwirioneddol

Bydd angen i chi wneud hawliad drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen P87, a chyflwyno’ch derbynebau gyda’r ffurflen.

Er mwyn hawlio swm penodedig a gytunwyd arno

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio a allwch hawlio
  • gwneud hawliad os ydych yn gymwys

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.

Dechrau nawr