Gwneud cais am ryddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd
Ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol
Gallwch hawlio rhyddhad treth ar y canlynol:
- ffioedd aelodaeth proffesiynol, os oes rhaid i chi dalu’r ffioedd i allu gwneud eich swydd
- tanysgrifiadau blynyddol rydych yn eu talu i gyrff proffesiynol neu gymdeithasau dysgedig cymeradwy (yn agor tudalen Saesneg) os yw bod yn aelod o’r corff hwnnw neu’r gymdeithas honno yn berthnasol i’ch swydd
Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau aelodaeth oes, na ffioedd aelodaeth neu danysgrifiadau blynyddol proffesiynol:
- nad ydych wedi talu amdanynt eich hunan (er enghraifft, os yw’ch cyflogwr wedi eu talu)
- rydych wedi eu talu i sefydliadau proffesiynol sydd heb eu cymeradwyo gan CThEF
Gall eich sefydliad roi gwybod i chi faint o dreth y caniateir i chi ei hawlio’n ôl.
Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.
Sut i hawlio
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- gwirio a allwch hawlio
- gwneud hawliad os ydych yn gymwys
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.