Trosolwg

Os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1959 gallech gael naill ai £100 neu £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2025 i 2026. Gelwir hyn yn ‘Daliad Tanwydd Gaeaf’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Os yw’ch incwm trethadwy dros £35,000, bydd CthEF yn adennill eich Taliad Tanwydd Gaeaf trwy’r system dreth.

Gallwch optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf os nad ydych eisiau ei dderbyn.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch yn ei gael.

Caiff y rhan fwyaf o bobl gymwys eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 2025.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Efallai byddwch yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf gan Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Bydd yr un rheolau â Chymru a Lloegr yn berthnasol. Caiff hwn ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Os ydych yn byw yn Yr Alban

Ni allwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf. Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad Pension Age Winter Heating.

Help arall gyda biliau gwresogi

Gallech hefyd gael:

  • Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero celsius neu’n is am 7 diwrnod yn olynol
  • y Gostyngiad Cartrefi Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
  • cymorth gan y Gronfa Cymorth i Gartrefi, os ydych yn gymwys o dan reolau eich cyngor lleol