Taliad Tanwydd Gaeaf
Rhoi gwybod am newid neu optio allan
Cysylltwch â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf ac rydych:
- angen rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
 - angen newid eich cyfeiriad neu fanylion personol
 
Rhowch wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn gynted ag y bo modd - er enghraifft, os byddwch yn symud tŷ neu fynd i mewn i gartref gofal. Gall y rhain effeithio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf rydych yn ei gael.
Os ydych eisiau optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf
Mae’r terfyn amser i optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2025 i 2026 wedi mynd heibio.
Os yw eich incwm dros £35,000 ac nad ydych wedi optio allan, bydd CThEF yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl. Ni allwch ei ddychwelyd eich hun. Gallwch edrych sut y bydd CThEF yn ei gymryd yn ôl.
Gallwch optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2026 i 2027 ymlaen o 1 Ebrill 2026.
Os ydych eisiau optio yn ôl i mewn
Gallwch optio yn ôl i fewn gan gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf. I gael taliad ar gyfer gaeaf 2025 i 2026 bydd angen i chi gysylltu â nhw cyn 31 Mawrth 2026.
Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf
Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan daliadau, byddwch angen dweud wrthynt eich manylion personol fel:
- eich enw
 - eich cyfeiriad
 - eich dyddiad geni
 - eich rhif Yswiriant Gwladol
 
Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr trwy’r post.
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar 18001 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL)  os ydych yn denfyddio cyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR
Os ydych wedi cael eich gordalu
Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:
- na wnaethoch ddweud wrthym am newid ar unwaith
 - rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
 - cawsoch eich gordalu mewn camgymeriad
 
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.