Taliad Tanwydd Gaeaf
Faint fyddwch chi'n ei gael
Byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn rhoi gwybod i chi faint o Daliad Tanwydd Gaeaf byddwch yn ei gael, os ydych yn gymwys.
Os nad ydych yn cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais.
Mae faint rydych yn ei gael yn seiliedig ar pryd y cawsoch eich geni a’ch amgylchiadau rhwng 15 i 21 Medi 2025. Mae hwn yn cael ei alw yn ‘wythnos gymhwyso’.
Ni fydd unrhyw arian a gewch yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu does neb rydych chi’n byw gyda nhw yn gymwys ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf
Byddwch yn cael naill ai:
- £200 os cawsoch eich geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
- £300 os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1945
Os ydych yn byw gyda rhywun arall sy’n gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf
Efallai y bydd eich taliad yn wahanol os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Cymhorthdal Incwm
Os nad ydych yn cael un o’r budd-dalidadau
Cewch daliad o:
- £100 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi’ch geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
- £100 os ydych chi wedi’ch geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi’u geni cyn 22 Medi 1945
- £200 os ydych chi wedi’ch geni cyn 22 Medi 1945 ond bod y person rydych chi’n byw gyda wedi’u geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
- £150 os ydych chi a’r person rydych chi’n byw gyda wedi’ch geni cyn 22 Medi 1945
Os oes gennych chi a’ch partner cais ar y cyd am unrhyw un o’r budd-daliadau
Bydd un ohonoch yn cael taliad o naill ai:
- £200 os ganwyd y ddau ohonoch rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
- £300 os ganwyd un neu’r ddau ohonoch cyn 22 Medi 1945
Byddwch yn cael eich talu i’r cyfrif banc y telir eich budd-daliadau iddo fel arfer.
Os cewch unrhyw un o’r budd-daliadau (nid fel rhan o gais ar y cyd)
Byddwch yn cael taliad o naill ai:
- £200 os cawsoch eich geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
- £300 os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1945
Os yw’ch incwm trethadwy yn fwy na £35,000
Bydd CThEF yn adennill eich holl Daliad Tanwydd Gaeaf naill ai trwy PAYE neu’ch ffurflen dreth Hunanasesiad.
Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal
Os ydych chi’n gymwys byddwch chi’n cael naill ai:
- £100 os cawsoch eich geni rhwng 22 Medi 1945 a 21 Medi 1959
- £150 os cawsoch eich geni cyn 22 Medi 1945