Cymhwysedd

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni ar neu cyn 27 Mehefin 1960 ac rydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.

Pan na fyddwch yn gymwys

Ni fyddwch yn gymwys os:

  • rydych yn byw tu allan i Gymru a Lloegr
  • rydych wedi bod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim am yr wythnos gyfan rhwng 21 a 27 Medi 2026 a’r flwyddyn gynt
  • rydych angen caniatâd i ddod i mewn i’r DU ac mae eich caniatâd a roddwyd yn dweud na allwch hawlio arian cyhoeddus
  • roeddech yn y carchar am yr wythnos gyfan rhwng 21 a 27 Medi 2026

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn byw mewn cartref gofal. Ni fyddwch yn gymwys os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • rydych wedi byw mewn cartref gofal am y cyfnod llawn ers 29 Mehefin 2026 neu’n gynharach